Biliau dŵr uwch o achos carthion yn afonydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru yn rhybuddio bod eu cwsmeriaid yn wynebu "cynnydd sylweddol mewn biliau" er mwyn delio gyda llygredd sy'n cael ei achosi gan garthffosiaeth yn afonydd Cymru.
Yn ystod cyfnodau o law trwm mae'r cwmnïau dŵr yn cael rhyddhau carthffosiaeth i'n hafonydd, er mwyn ei atal rhag gorlifo i strydoedd a thai.
Ond yn ôl ymgyrchwyr mae'n digwydd yn llawer rhy aml.
Yn ôl y Rivers Trust fe gafodd carthion dynol eu rhyddhau i afonydd Cymru 93,275 o weithiau am gyfanswm o 780,775 o oriau yn 2021.
Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am ran helaeth o garthffosydd Cymru, ac maen nhw'n derbyn bod y ffigyrau yma yn "ofnadwy".
Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor seneddol roedd Steve Wilson o gwmni Dŵr Cymru yn derbyn bod yna broblem gyda hiechyd ein hafonydd.
"Dyw pum afon mwyaf eiconig Cymru, os nad y Deyrnas Unedig, ddim yn cyrraedd y safonau cywir.
"Mae gennym ni ran i'w chwarae yn hynny. Mae gollyngiadau gan Ddŵr Cymru yn gyfrifol am 20-30% o'r broblem yn rhai o'r afonydd hynny, ac mae'n rhaid i ni ddelio â hynny, ac mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn yr asedau yna i wella'r safon.
"Mi fydd rhaid i ni fynd trwy gyfnod nawr o gynnydd sylweddol mewn biliau er mwyn ceisio taclo'r problemau pwysig yma."
Mae pump o'r naw afon yng Nghymru sydd wedi eu dynodi fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn methu eu targedau llygredd.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, dim ond 40% o afonydd Cymru sydd â statws ecolegol da.
Mae Llanbrynmair yn un o'r ardaloedd gwaethaf yng Nghymru, ac yn ôl ffigyrau Dŵr Cymru fe gafodd carthffosiaeth ei ryddhau i'r afon o'r orlif storm am dros 5,000 o oriau yn 2021.
Mae'n broblem hefyd lawr y lôn yng Nghwmlline ac yn ôl Aled Griffiths, o Gyngor Cymuned Glantwymyn "mae o'n bryderus iawn".
"Petai pobl yn sylweddoli maint y broblem yna mi fyse nhw yn poeni ac mi fyse 'na gryn dipyn o sŵn ynglŷn â'r peth," dywedodd.
"Be 'dan ni'n ei weld pan mae hi'n wlyb - hynny yw, pan mae hi'n bwrw yn drwm am gyfnod - yna dydi'r system methu ymdopi efo'r holl garthffosiaeth ac wedyn mae o'n llifo allan o'r orsaf bwmpio.
"'Dan ni ar lwybr cyhoeddus fan hyn, ac mae'n ein poeni ni fel cyngor a fel cymuned bod pobl yn gallu dod i gyswllt efo'r carthffosiaeth yma, a hefyd bod y carthffosiaeth wedyn yn llifo i'r nant Line fan hyn ac wedyn i'r afon Ddyfi sydd ond ychydig o gan lathenni i ffwrdd."
Mae Mr Griffiths yn dweud nad yw Dŵr Cymru wedi "buddsoddi yn ddigonol dros y blynyddoedd".
Ychwanegodd: "Mae fel bo' nhw'n anwybyddu maint y broblem."
Cost o '£14-20bn'
Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod nhw eisoes yn buddsoddi bron i £1bn dros y bum mlynedd nesaf i ddelio efo hyn, ac y byddan nhw'n blaenoriaethu'r ardaloedd ble mae'r carthffosiaeth yn achosi'r niwed mwyaf.
Ond yn ôl Steve Wilson byddai'n costio "£14-20bn" i sicrhau bod gorlifoedd storm yn Nghymru yn llifo dim ond 10-20 gwaith y flwyddyn.
"'Dan ni'n mesur safon y dŵr i fyny ac i lawr yr afon o'r gorlifoedd storm, a'n barn ni yw bod angen taclo'r rhai sydd â'r effaith amgylcheddol fwyaf i ddechrau.
"Dyw'r ffaith eu bod yn gweithredu ddim yn golygu eu bod yn niweidio'r amgylchedd."
Mae gan y rhan fwyaf o Gymru system garthffosiaeth gyfun, sy'n golygu bod dŵr glaw a dŵr gwastraff yn cael eu cario yn yr un pibellau.
Yn ystod glaw trwm mae'r dŵr yma yn cael ei ryddhau i afonydd drwy orlifoedd storm, er mwyn sicrhau nad yw'n gorlifo i dai a strydoedd.
Dim ond yn ystod glaw trwm y mae'r carthffosiaeth yma i fod i gael ei ryddhau, fel bod digon o ddŵr i wanhau'r carthion.
Mae Dŵr Cymru yn dadlau bod tywydd gwlyb Cymru yn rhannol ar fai am y ffigyrau uchel yma.
Ond dyw'r ddadl yna ddim yn dal dŵr yn ôl AS Ceredigion Ben Lake - aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig sy'n dweud eu bod nhw wedi derbyn tystiolaeth bod cryn dipyn o ollyngiadau yn digwydd yn ystod tywydd sych.
"Dyw o ddim, yn fy marn i, yn ddigon da i gael yr esgus yma taw glaw sydd wrth sail ein holl broblemau ni," dywedodd.
"Ar ddiwedd y dydd mae angen mwy o fuddsoddiad yn yr isadeiledd systemau dŵr yma, fel nad ydym yn cael y gollyngiadau yma yn y dyfodol."
Mae o'n credu "bod y cyhoedd yn iawn i fynnu gwell".
'Peryglus'
Yn ôl Dr Hywel Griffiths, o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, mae llygredd yn effeithio'n andwyol ar ecoleg afon.
Mae rhyddhau carthffosiaeth yn ystod yr haf yn "broblematig iawn" gan ei fod yn cynnwys microblastigau - sydd, meddai "yn aros o gwmpas os di'r rhyddhau yna yn digwydd yn yr haf".
Mae o hefyd yn gallu bod yn beryglus i unrhyw un sy'n nofio mewn afonydd.
"Mi ddylai afonydd fod yn lefydd y gallai pobl fynd iddyn nhw i fwynhau heb orfod poeni bod nhw ddim yn lefydd saff neu iach iddyn nhw wneud hynny," meddai.
Mae hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn ymrwymo i wella ansawdd ein hafonydd ledled Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod "sicrhau bod ein dŵr o safon uchel yn rhan hanfodol o wneud Cymru yn le llewyrchus, hapus a iach i fyw ynddo, ac mae'n chwarae rhan ganolog yn ein hymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019