Gobaith am 20,000 o swyddi wrth greu dau borthladd rhydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth ydy Porthladd Rhydd felly? Ein gohebydd Liam Evans aeth draw i Gaergybi i esbonio

Bydd dau borthladd rhydd newydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru gydag addewid o fuddsoddiad a swyddi.

Ceisiadau gan y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot, a Phorthladd Rhydd Ynys Môn yng Nghaergybi ddaeth i'r brig.

Bydd y safleoedd yn derbyn hyd at £26m yr un gan Lywodraeth y DU, ac mae disgwyl iddyn nhw fod yn weithredol yn ddiweddarach eleni.

Ym mis Mai 2022 daeth llywodraethau Cymru a'r DU i gytundeb i sefydlu rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru ac wrth gyhoeddi mai'r safleoedd yn y gorllewin a'r gogledd oedd wedi'u dewis, dywedodd gweinidogion mai'r nod fydd denu hyd at £5bn o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, gyda photensial i greu tua 20,000 o swyddi erbyn 2030.

Beth ydyn ni'n ei wybod am y ddau borthladd rhydd sydd wedi'u dewis felly?

Mae'r BBC yn deall mai cais y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot sgoriodd uchaf yn y broses, a bydd y safle yn canolbwyntio ar dechnoleg carbon isel fel ynni gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon a biodanwyddau i gefnogi ymdrechion i leihau allyriadau carbon.

Ffynhonnell y llun, ABP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cais y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot yn un o'r ddau lwyddiannus

Mae'r porthladdoedd yn gobeithio denu buddsoddiad sylweddol, gan gynnwys £3.5m yn y diwydiant hydrogen, yn ogystal â chreu 16,000 o swyddi, gan sbarduno £900m o Werth Ychwanegol Gros (GYG) erbyn 2030, a £13bn erbyn 2050.

Roedd Porthladd Rhydd Ynys Môn hefyd wedi cael sgôr uchel, a bydd wedi'i leoli o amgylch porthladd Caergybi, Parth Ffyniant Ynys Môn, Rhosgoch ac M-Sbarc.

Bydd yn hybu Rhaglen Ynys Ynni Môn trwy ganolbwyntio ar brofion technoleg ynni ar wely'r môr (llanw a gwynt).

Yr amcan yw creu rhwng 3,500 a 13,000 o swyddi erbyn 2030, a chreu GYG o thua £500m. Y gobaith yw denu buddsoddiad pellach, gan gynnwys £1.4bn posib yn y sector ynni gwyrdd.

Doedd trydydd cais, wedi'i leoli o amgylch Casnewydd a Maes Awyr Caerdydd, ddim yn llwyddiannus.

Ffynhonnell y llun, Stena Line
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Caergybi yn gartref i un o ddau borthladd rhydd newydd yng Nghymru

Beth yw porthladd rhydd?

Mae'r syniad o sefydlu porthladdoedd rhydd yn y DU yn deillio'n ôl i 2016, a'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd yn un o addewidion Llywodraeth y DU ar y pryd y byddai modd gwneud hynny o ganlyniad i adael yr undeb.

Yn syml, maen nhw'n safleoedd arbennig o fewn ffiniau'r DU lle mae yna reolau economaidd gwahanol yn bodoli er mwyn ceisio hybu buddsoddiad a chreu miloedd o swyddi ansawdd uchel mewn cymunedau llai breintiedig.

Ynghyd â buddion eraill, does yna ddim tollau arferol ar fewnforio ac allforio yn cael eu gosod. Dim ond os yw'r cynhyrchion hynny'n cael eu hanfon i farchnad y DU y mae'r ffioedd arferol yn berthnasol.

Y nod yw denu busnesau i sefydlu o fewn yr ardaloedd o gwmpas y porthladdoedd.

Wrth fewnforio ac allforio, bydd y busnesau hynny'n talu llai o arian - ac o bosib yn creu rhagor o elw a dod a swyddi i'r ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-safle Alwminiwm Môn wedi'i ddynodi fel man i gwmnïau sefydlu eu hunain dafliad carreg o'r porthladd

Yng Nghaergybi, er enghraifft, mae perchnogion y porthladd, cwmni Stena, eisoes wedi prynu hen safle Alwminiwm Môn gerllaw gyda'r nod o greu un o'r rhanbarthau hyn lle y gall cwmnïau sefydlu.

Ond mae rhai sy'n beirniadu'r cynllun yn dweud fod y rhanbarthau yn tynnu buddsoddiad o ardaloedd eraill yng Nghymru, ac felly ddim yn tyfu maint yr economi.

Mae yna enghreifftiau mewn gwledydd eraill o borthladdoedd tebyg yn arwain at guddio arian ac o gwmnïau'n osgoi talu trethi.

Mae yna wyth porthladd rhydd wedi'u sefydlu yn Lloegr yn barod ac mae dau wedi'u cyhoeddi ar gyfer Yr Alban.

'Llywio dyfodol Cymru'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y bydd y porthladdoedd rhydd yn creu "llwyfan ar gyfer y diwydiannau hynny fydd yn llywio dyfodol Cymru".

"Ry'n ni'n gwybod y bydd y cyflenwadau olew a nwy, y mae'r byd wedi dibynnu arnynt, yn rhedeg mas," meddai.

"Bryd hynny fe fydd pob un ohonom angen cyflenwadau ynni newydd, ac mae Cymru mewn sefyllfa berffaith i fod yn rhan o ynni adnewyddadwy'r dyfodol, a bydd y porthladdoedd rhydd yn rhoi man cychwyn i hynny.

"Maen nhw'n bwysig iawn ynddyn nhw'u hunain, ond maent yn bwysicach fyth oherwydd byddant yn caniatáu i'r diwydiannau adnewyddadwy gael eu creu yma yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rishi Sunak a Mark Drakeford wedi cyfeirio at y cydweithio rhwng y ddwy lywodraeth

Yn ystod ymweliad â Chaergybi ddydd Iau dywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, bod y newyddion wedi cael "croeso cynnes gan gymunedau lleol" a bod "cynnwrf wrth inni gerdded o gwmpas heddiw".

"Mae pawb wedi cael hwb o'r cyhoeddiad hwn ac maent eisoes yn cael 40 o wahanol gwmnïau - dwi'n credu mai dyna ddywedwyd wrtha i - yn cysylltu ac yn ystyried buddsoddi yma, a chreu swyddi yn y gymuned leol.

"Mae hynny'n wych i Gymru, a dyna yr ydym ei eisiau. I yrru twf rydym eisiau creu swyddi a chyfleoedd. Bydd y porthladdoedd rhydd yma yng Nghymru yn ein helpu ni i wneud hynny."

'Degau o filoedd o swyddi newydd'

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae ein porthladdoedd yn rhan annatod o'n hanes diwydiannol cyfoethog.

"Nhw fydd yr injan fydd yn gyrru'n heconomi yn y dyfodol ac mae'r ceisiadau hyn wedi'u cynllunio i'n prysuro ar y daith.

"O ynni'r môr i weithgynhyrchu uwch, byddant yn helpu i greu degau o filoedd o swyddi newydd - a fydd yn cefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol iawn i fod yn sero-net erbyn 2050.

"Bydd hyn yn ein helpu i harneisio'n potensial economaidd anferthol, yma ac yn rhyngwladol gan hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd yma yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai'n pryderu am effaith cyflwyno porthladd rhydd mewn un ardal ar lwyddiant economaidd ardaloedd eraill

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad am y ddau borthladd, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS y bydd "busnesau Cymru'n gallu elwa o reoliadau cynllunio haws, buddiannau treth a threfniadau tollau symlach".

Ychwanegodd: "Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru gyfan fod yna nid un, ond dau borthladd rhydd wedi'u cymeradwyo diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig yn lobïo ar y mater."