'13,000 o swyddi petai Caergybi'n borthladd rhydd'

  • Cyhoeddwyd
Porthladd CaergybiFfynhonnell y llun, Stena Line

Mae perchnogion porthladd Caergybi yn dweud y gallai miloedd o swyddi gael eu creu petai'n borthladd rhydd.

Dywed Stena Line eu bod yn gweithio gyda chwmnïau fel Rolls Royce a Bechtel sydd â diddordeb mewn codi ffatrïoedd yn y dref petai'n derbyn statws porthladd rhydd.

Yn ôl Stena Line fe fyddai'r statws yn lleihau maint y gwaith papur sydd wedi bod yn angenrheidiol wrth i lorïau deithio trwy Gaergybi ers Brexit.

Mae disgwyl pum cais am statws porthladd rhydd yng Nghymru - rhaid cyflwyno ceisiadau cyn 18:00 ddydd Iau, 24 Tachwedd ac mae disgwyl penderfyniadau erbyn gwanwyn nesaf.

Mae statws porthladd rhydd yn caniatáu i gwmnïau fewnforio nwyddau ac yna'u hallforio tu hwnt i'r rheolau trethi a thollau arferol.

Mae'n caniatáu i ffatrïoedd parth y porthladd fewnforio deunyddiau crai'n ddi-doll a thalu tollau dim ond wrth i nwyddau gorffenedig adael y safle - neu eu hail-allforio dramor heb dalu tollau o gwbl yn y DU.

Llywodraethau Cymru a'r DU fydd yn penderfynu ar y cyd ble fydd porthladd rhydd cyntaf Cymru.

Ffynhonnell y llun, Orthios
Disgrifiad o’r llun,

Wrth gyhoeddi eu bod wedi prynu hen safle Alwminiwm Môn, dywedodd Stena y byddai'n eu galluogi i ehangu a datblygu porthladd Caergybi

Mae Stena Line wedi prynu hen safle Alwminiwm Môn ar gyrion Caergybi fel bod modd, petai'r statws yn cael ei ddyfarnu, i gwmnïau sefydlu ffatrïoedd o fewn parth y porthladd rhydd.

Mae trafodaethau wedi eu cynnal gyda chwmnïau fel Rolls Royce, sydd â diddordeb mewn cynhyrchu cydrannau yno ar gyfer adweithyddion niwclear bach.

'Byddai'n fwy na jest porthladd'

"Un o gryfderau mawr cais Caergybi yw'r potensial i greu swyddi newydd trwy ddenu cwmnïau newydd i sefydlu yma," dywedodd Ian Hampton, Cyfarwyddwr Gweithredol cwmni Stena Line Ports.

"Dyma borthladd traffig lori roll-on roll-off prysuraf ond un y DU, ond byddai statws porthladd rhydd yn golygu y gallai fod yn fwy na jest porthladd.

"Gallwn ni ddenu busnesau na fyddai fel arfer yn dod i Gaergybi. Gallen nhw fanteisio ar yr hyn mae porthladd rhydd yn ei gynnig ond hefyd creu miloedd o swyddi newydd a thyfiant economaidd i ogledd Cymru i gyd a'r DU.

"'Dan ni'n sôn am botensial o dwf gwerth biliwn o bunnau a hyd at 13,000 o swyddi yn ôl ein modelu economaidd.

"'Dan ni'n gyfan gwbl o blaid hyn ac yn credu ynddo'n wirioneddol. Mae'r model porthladdoedd rhydd yma wir yn creu'r cyfleoedd i fusnesau na fyddai fel rheol yn dod yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna botensial aruthrol yn sgil cael statws porthladd rhydd, medd Ian Hampton, Cyfarwyddwr Gweithredol cwmni Stena Line Ports

Byddai'r statws hefyd, medd Stena Line, yn symleiddio'r trefniadau i lorïau sy'n teithio o Iwerddon i wledydd yr Undeb Ewropeaidd gan basio trwy'r DU heb stopio.

Ers Brexit, mae rhai lorïau wedi teithio'n uniongyrchol ar longau fferi o Iwerddon i Ffrainc i osgoi gwaith papur ychwanegol.

Petai Caergybi'n borthladd rhydd, meddai Ian Hampton, byddai "rheolau tollau symlach, gyda system ddigidol, gan olygu unwaith yn rhagor y byddai'r un mor hawdd i lorïau deithio trwy Gymru ac ymlaen i Ewrop... ag y mae ar hyn o bryd i deithio'n uniongyrchol rhwng Iwerddon a Ffrainc.

"Y bont gwlad yw'r llwybr cyflymaf o hyd rhwng Iwerddon ac Ewrop, ond mae traffig pont gwlad hefyd yn bwysig i gadw Caergybi'n brysur a diogelu swyddi yma, felly 'dan ni'n awyddus i'w helpu i lifo mor llyfn â phosib."

Ffynhonnell y llun, BILLYPIX LTD
Disgrifiad o’r llun,

Mae wyth porthladd rhydd wedi eu cadarnhau yn Lloegr, gan gynnwys Porthladd Rhydd Thames

Syniad Llywodraeth y DU i ddatblygu'r economi wedi Brexit oedd sefydlu porthladdoedd rhydd, ond mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi codi cwestiynau a ydyn nhw'n creu swyddi a buddsoddiad newydd neu'n eu symud o ardal arall.

Mae wyth porthladd rhydd wedi eu cadarnhau yn Lloegr.

Nid Caergybi fydd yr unig le i geisio am y statws yng Nghymru. Mae partneriaeth Celtic Freeport yn bwriadu ymgeisio ar ran rhannau o Bort Talbot ac Aberdaugleddau.

Dywed cefnogwyr y cais hwnnw y byddai'n creu swyddi trwy helpu datblygu'r diwydiant ynni gwynt ar y môr.

'Cyfleoedd anferthol'

Mae cais Caergybi'n cael ei gyflwyno ar y cyd â Chyngor Sir Ynys Môn.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid denu swyddi newydd wedi i gannoedd gael eu colli ar yr ynys yn y blynyddoedd diwethaf, medd y Cynghorydd Carwyn Jones

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, dirprwy arweinydd y cyngor: "Mae Stena yn gyflogwr pwysig ym Môn yn barod, a 'dan ni'n gobeithio bydd y cynnig yma'n dod â llewyrch tymor hir i bobl yr ynys.

"'Dan ni wedi colli tua 600 o swyddi da ar yr ynys yn y blynyddoedd diwetha' ar ôl cau llefydd fel Rehau a Marco Cable Management a datgomisiynu atomfa Wylfa.

"Rŵan 'dan ni angen rhywbeth yn eu lle. Mae 'na gyfleoedd anferthol ym mhorthladd Caergybi ac ma'r cais yma efo'r potensial i'w gwireddu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen swyddi lleol fel bod pobl ifanc yn gallu aros yn eu cymunedau, meddai'r AS Virginia Crosbie

Dywedodd AS Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie, bod yr ynys angen swyddi a sgiliau da.

"Pryd bynnag dwi'n siarad â phobl ifanc ar yr ynys, maen nhw'n dweud wrtha'i eu bod eisiau gallu cael job yma sy'n talu digon i allu fforddio'u cartref eu hunain ac aros yn eu cymunedau eu hunain.

"Byddai hynny yn ei dro yn helpu cadw'r Gymraeg yn fyw.

"Mae'r cynnig yma â'r potensial i ddod â buddsoddiad a swyddi safon da i'r ynys."

Dywedodd aelod Plaid Cymru Ynys Môn yn Senedd Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae hwn yn gynnig sy'n un grymus dros Ynys Môn, ac yn un cynaliadwy, a bydd yn galluogi ni i wireddu ein huchelgeisiau fel ynys."

Mae porthladdoedd "â photensial anferthol i gyflymu diwydiannau'r dyfodol", meddai Gweinidog Economi Llafur Cymru, Vaughan Gething.

"Edrychaf ymlaen at ystyried ceisiadau dyfeisgar sy'n arwain at fuddiannau economaidd a chymdeithasol arwyddocaol i Gymru."