Cais porthladd rhydd yn addo creu 16,000 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Porthladd Port TalbotFfynhonnell y llun, Associated British Ports
Disgrifiad o’r llun,

Mae cais wedi'i gyflwyno i roi statws porthladd rhydd i borthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot

Fe allai biliynau o bunnoedd lifo i dde-orllewin Cymru fel rhan o "chwyldro diwydiannol gwyrdd", yn ôl cefnogwyr ymgyrch i ennill statws porthladd rhydd i borthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot.

Mae'r cais Porthladd Rhydd Celtaidd yn addo creu 16,000 o swyddi newydd a helpu Cymru i leihau lefelau carbon sy'n niweidiol i'r amgylchedd.

Canolbwynt y cais yw prosiect ynni gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.

Mae'n un o dri chais fydd yn cystadlu i fod yn borthladd rhydd cyntaf Cymru ers y 1980au.

Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, porthladd Aberdaugleddau a Chyngor Sir Benfro sydd tu ôl i'r cais.

'Coridor ynni gwyrdd'

Mae cefnogwyr y cais yn dweud y byddai'n creu "coridor ynni gwyrdd" ar hyd arfordir de-orllewin Cymru, gan ddarparu miloedd o swyddi newydd a buddsoddiad o hyd at £5.5bn, yn ogystal â datblygu technolegau gwyrdd.

"Bydd y cynnig yn cynhyrchu 20% o ofynion offshore y DU erbyn 2035," meddai Roger Maggs, cadeirydd consortiwm y cais.

"Bydd angen creu 16,000 o swyddi newydd i adeiladu, cynnal a gweithredu'r isadeiledd i greu'r pŵer gwyrdd hwnnw."

Dywedodd aelod Llafur Aberafan yn Senedd Cymru, David Rees: "Mae'r cais hwn yn cynnig cyfleodd enfawr i bobl leol.

"Os yw Cymru am chwarae rhan fawr yn natblygiad ynni gwyrdd yna mae'n rhaid cefnogi'r cais. Rwy'n gobeithio bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn penderfynu bwrw 'mlaen â hyn."

Beth yw porthladd rhydd?

Mae porthladdoedd rhydd yn ardaloedd lle nad yw rheolau treth a thollau arferol yn berthnasol, gan ei gwneud hi'n rhatach ac yn haws i fewnforio, cynhyrchu ac allforio cynhyrchion.

Dim ond os yw'r cynhyrchion hynny'n cael eu hanfon i farchnad y DU y mae'r ffioedd arferol yn berthnasol.

Pryder rhai yw y bydd y porthladdoedd rhydd yn annog cwmnïau presennol i adleoli yn hytrach na chreu buddsoddiad newydd, ond mae Stephen Crabb, AS Ceidwadol Preseli Penfro, yn mynnu bod y cais hwn yn wahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot yn ddelfrydol ar gyfer y diwydiant ynni gwynt arnofiol, medd Stephen Crabb

"Mae wedi'i seilio ar ddiwydiant go iawn sy'n digwydd nawr," meddai.

"Port Talbot ac Aberdaugleddau yw'r porthladdoedd gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer diwydiant gwynt arnofiol newydd o'r Môr Celtaidd."

Cais yn 'newid byd' i'r rhanbarth'

"Mae'r bid yma yn un uchelgeisiol," yn ôl yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Sam Kurtz, sy'n ffyddiog y bydd yna swyddi newydd.

"Mae'n ddiwydiant newydd sbon gyda sgiliau newydd, a fydd hynny yn gwneud yn siŵr nad yw'n tynnu swyddi o lefydd eraill yng Nghymru.

"Dwi'n credu bod y ffaith bod y cynllun dros ddwy ardal yn hollbwysig."

Mae Mr Kurtz hefyd o'r farn bod cefnogi diwydiant newydd ac ynni gwyrdd yn angenrheidiol wrth ystyried y sefyllfa yn Wcráin a chostau nwy a thrydan.

'Sbardun allweddol'

Mae rhai cwmnïau sy'n gobeithio bod yn rhan o'r datblygiad gwynt ar y môr hefyd yn cefnogi'r cais.

Gwenllian Elias yw pennaeth datblygu yn y Môr Celtaidd ar gyfer cwmnïau ynni Renatis a Blue Float Energy.

Dywedodd y gallai Porthladd Rhydd Celtaidd fod yn "sbardun allweddol o fuddsoddiad", a allai "gefnogi datblygiad" cadwyni cyflenwi lleol "a bydd hefyd yn galluogi sgiliau a chyfleoedd hyfforddi".

Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r Porthladd Rhydd Celtaidd fod yn "sbardun allweddol o fuddsoddiad", medd Gwenllian Elias

Yn ôl Stephen Kinnock, AS Llafur Aberafan, mae'r cais yn "newid byd" i'r rhanbarth am ei fod yn cysylltu manteision ariannol porthladd rhydd gyda'r prosiect gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.

Dywedodd: "Gallwn adeiladu'r tyrbinau'r gwynt gan ddefnyddio dur o weithfeydd dur Port Talbot, er mwyn gyrru'r chwyldro diwydiannol gwyrdd yng Nghymru."

Mae'r cais Celtaidd yn cystadlu gyda chais Caergybi a chais Maes Awyr Caerdydd, sydd hefyd yn addo cyfleoedd enfawr i greu swyddi.

Bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ar y cyd yn y misoedd nesaf.

Eisoes, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud mai creu un porthladd rhydd yn unig "yw'r disgwyliad, ond dyw dau ddim yn amhosib a bydd ansawdd y ceisiadau yn hollbwysig".

Pynciau cysylltiedig