Ofnau y bydd costau yn 'llyncu' iawndal is-bostfeistri

  • Cyhoeddwyd
swyddfa bost

Mae cynllun iawndal newydd i is-bostfeistri a ddioddefodd yn sgil sgandal system gyfrifiadurol ddiffygiol Swyddfa'r Post yn agor ddydd Iau.

Ond mae yna bryderon y bydd rhan helaeth o'r iawndal yn cael ei lyncu gan gostau cyfreithiol.

Chafodd yr unigolion sy'n gymwys am daliadau dan y cynllun newydd ddim iawndal llawn o dan y cynllun gwreiddiol.

Fe fyddan nhw rwan yn derbyn yr un lefel o iawndal ag is-bostfeistri eraill a gafodd eu herlyn ar gam.

Nam system gyfrifiadurol

Rhwng 2000 a 2014, fe gafodd cannoedd o is-bostfeistri eu cyhuddo ar gam o ddwyn, twyllo a chadw cyfrifon ffug yn sgil nam yn system gyfrifiadurol Horizon - system a osodwyd gan Swyddfa'r Post yn eu canghennau ar draws y DU.

Fe gafodd rhai eu herlyn a'u carcharu. Yn sgil her lwyddiannus yn yr Uchel Lys yn 2019, mae sawl euogfarn bellach wedi eu dileu.

Cytunodd Swyddfa'r Post i sefydlu cynllun a thalu iawndal i dros 700 o bobl a gafodd record droseddol ar gam yn sgil methiannau system Horizon.

Roedd y cyn is-bostfeistri wedi gorfod mynd i'w pocedi eu hunain i lenwi bylchau a gododd yn y cyfrifon o'i herwydd.

Ond doedd y cynllun hwnnw ddim yn agored i'r 492 is-bostfeistr oedd yn rhan o'r achos yn yr Uchel Lys.

Er i'r grŵp ennill bron i £50m mewn iawndal yn y llys, cafodd y rhan helaeth o'r arian ei lyncu yn sgil cytundeb 'no win, no fee' gyda'r cwmni a ariannodd yr achos, Therium.

"Canran fechan" o'r setliad a wnaethon nhw ei dderbyn yn y pen draw, oedd yn gyfystyr ag oddeutu £20,000, medd y Trysorlys.

Dan bwysau, fis Mawrth y llynedd, fe benderfynodd Llywodraeth y DU bod angen cynllun iawndal newydd i'r 492 is-bostfeistr.

O ddydd Iau ymlaen fe fyddan nhw yn cael hawlio iawndal o'r gronfa newydd i adennill eu colledion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n sgandal sydd "angen ei gywiro ers amser maith," medd Kevin Hollinrake, y gweinidog sy'n gyfrifol am Swyddfa'r Post yn Llywodraeth y DU

Bydd y iawndal yn "llawn a theg" yn ôl Llywodraeth y DU.

"Mae wedi cymryd yn rhy hir… mae'n sgandal sydd angen ei gywiro ers amser maith," medd Kevin Hollinrake, y gweinidog sy'n gyfrifol am Swyddfa'r Post, ers ei benodiad yn yr hydref.

Dywedodd wrth y BBC y byddai'r Llywodraeth yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei ddigolledu'n ariannol fel pe bai'r sgandal ddim wedi digwydd.

"Rydym yn glir iawn am hynny," meddai.

"Er enghraifft os wnaethon nhw golli'u tŷ o ganlyniad o fynd yn fethdalwyr, dylai'u sefyllfa ariannol gael ei hadfer ac fe ddyle nhw gael iawndal am eu colledion."

Mae £19.5m o daliadau interim wedi'u gwneud a bydd yn rhaid i'r is-bostfeistri wneud ceisiadau am iawndal a'u setlo cyn Awst y flwyddyn nesaf.

Bydd panel annibynnol yn goruchwylio'r cynllun a bydd modd hawlio hyd at £18,000 mewn costau cyfreithiol er mwyn dod â'r achosion o hawlio iawndal i ben.

Pynciau cysylltiedig