'Dylwn i ddim crio, ond fedrai ddim stopio weithiau'
- Cyhoeddwyd
Mae is-bostfeistres o Ynys Môn yn dweud i'w bywyd gael ei chwalu a'i hiechyd ddioddef wedi iddi gael ei chyhuddo ar gam o ddwyn gan Swyddfa'r Post.
Ers 10 mlynedd mae Lorraine Williams wedi cadw'n dawel tra bod ei henw'n cael ei bardduo a phobl yn ei chymuned yn troi eu cefnau arni.
Fe dorrodd ei hiechyd, cafodd ei llorio gan iselder, collodd ei chartref a'i gwaith a'r unig ffordd roedd hi'n gallu parhau oedd cuddio a chadw'n dawel.
Ond rŵan, wedi iddi adfer ei henw da ar ôl achos hanesyddol yn y Llys Apêl yn Llundain fis diwethaf, mae hi'n teimlo'n ddigon cryf i ddweud ei stori am y tro cyntaf ac eisiau i'r byd wybod ei bod hi'n ddieuog.
"Ers yr apêl dwi 'di cael tua tri yn dod i'r drws i ddod i ddweud llongyfarchiadau a dwi'n meddwl rhaid i fi adael i bawb wybod mod i'n ddieuog.
"Mae wedi bod yn 10 mlynedd anodd iawn, iawn."
Mae Lorraine Williams yn byw ym mhentref Llanddaniel Fab, ar Ynys Môn, ac am flynyddoedd bu'n rhan ganolog o'r gymuned.
Bu'n maethu plant, yn gweithio gyda'r clwb ar ôl ysgol a'r clwb ieuenctid, ac yn warden mewn stad i'r henoed, gan fyw ar y safle gyda'i gŵr Gareth a'u merch Cameron.
Pan oedd dyfodol y siop bentref a'r swyddfa bost yn y fantol, roedd yn aelod o'r pwyllgor cymunedol wnaeth gasglu arian i brynu'r adeilad, a chyfrannodd i'r gronfa apêl.
Yna yn 2009, gydag ansicrwydd eto am y gwasanaeth fe gytunodd i rannu ei gwaith fel warden gyda bod yn is-bostfeistres.
"Roedd y siop yn cau ac roedd y post yn cau a mi roedd lot o bobl yn y pentref yn gofyn pam 'nei di ddim cymryd o drosodd, fedri di 'neud o", meddai Lorraine Williams wrth Cymru Fyw.
"Ro'n i'n warden ar yr adeg i'r henoed yn y pentref, felly dyma ni'n penderfynu cymryd drosodd - i helpu'r pentref fwy na dim byd."
Nadolig 2010, fe ddechreuodd ei hunllef. Mae'n dweud bod problemau trydanol wedi effeithio system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post - Horizon - ac fe gysylltodd gyda'r llinell gymorth i gwyno.
O fewn wythnosau fe ddechreuodd y cyfrifiadur ddangos bod arian a stoc ar goll, ac yn gwaethygu gydag amser. Doedd gan Mrs Williams ddim syniad beth oedd yn digwydd a chadwodd yn dawel.
"Ti'n meddwl 'dwi mewn trwbl yn fa'ma ac alla i ddim sortio fo allan'. Neshi ddim d'eud hyd yn oed wrth y gŵr am tua tri mis, ro'n i'n panicio cyn gymaint. Roedd o'n straen.
"Do'n i methu cysgu o gwbl. Ro'n i 'di mynd i gysgu yn y diwedd 'efo'r ferch a do'n i ddim isho styrbio'r gŵr felly neshi jest neud esgus bod y ferch isho cwmpeini gyda'r nos."
'£14,600 ar goll'
Fis Mehefin 2011, daeth cyfrifwyr Swyddfa'r Post i mewn a dweud bod £14,600 ar goll.
"Roedden nhw'n gofyn 'lle mae o'," meddai.
"'Dwi'm yn gwybod' medda fi, 'dio ddim geno fi dwi ddim wedi cymryd o'. Wnaethon nhw jest gloi fi allan o'r swyddfa bost diwrnod yna, cymryd goriadau oddi arna fi a sysbendio fi. Roedd o'n sioc enfawr."
Roedd Swyddfa'r Post yn mynnu mai hi oedd yr unig un oedd yn cael trafferthion gyda'r system gyfrifiadurol a chafodd ei chyhuddo o ddwyn.
Ond fel sydd wedi dod i'r amlwg erbyn hyn, nid hi oedd yr unig un, o bell ffordd. Roedd un arall yn byw dwy filltir yn unig i lawr y lôn.
Cafodd y cyn-gynghorydd Noel Thomas ei garcharu ar gam yn 2006 am gadw cyfrifon ffug ar ôl i system Horizon ddangos bod £48,000 ar goll o'i swyddfa bost yng Ngaerwen.
O'r cychwyn cyntaf, roedd yn mynnu mai'r cyfrifiadur oedd y bai fel ddywedodd wrth Taro Naw, dolen allanol, rhaglen materion cyfoes y BBC, wnaeth ganfod 30 o bobl eraill ar draws Prydain oedd yn dweud union yr un peth.
Cafodd y rhaglen, wnaeth godi'r pryderon gyda Swyddfa'r Post ar y pryd, ei darlledu yn 2009 - dwy flynedd cyn i Lorraine Williams gael ei herlyn.
Ond yn Llys y Goron Caernarfon yn 2012, ar sail cyngor cyfreithiol fe blediodd is-bostfeistres Llanddaniel Fab yn euog o gadw cyfrifon ffug, a hynny er mwyn osgoi cyhuddiad mwy difrifol o ddwyn - ac osgoi mynd i'r carchar a'r effaith fyddai hynny yn ei gael ar ei merch 10 oed.
"Wnaethon ni ddweud wrthi cyn yr achos llys be' oedd yn digwydd a bod Mam ella ddim yn dod adra, a dweud wrthi 'dydw i ddim 'di neud o - ond fydd rhywun yn watchiad ar dy ôl di paid ti poeni fyddi di 'efo dy dad a phaid poeni'.
"Deg oed oedd y ferch. Mae hyn wedi bod hanner ei bywyd hi - 20 ydi hi rŵan."
Llwyddodd i osgoi'r carchar gyda'r ddedfryd o 52 wythnos wedi ei gohirio, ar yr amod ei bod yn talu'r £14,600 'yn ôl' i'r post a gweithio 200 awr yn y gymuned.
Fe gollodd ei holl incwm - y siop a'r post a'i swydd gyda'r henoed, ac roedd yn rhaid iddi adael y tŷ oedd yn dod gyda'r swydd warden, cartref ei theulu ers 10 mlynedd.
Symudodd yn ôl i'r tŷ oedd hi a'i gŵr yn berchen yn y pentref a'i ail-forgeisio er mwyn talu'r arian i Swyddfa'r Post.
"Dwi ddim yn cofio symud o'r tŷ," meddai Mrs Williams. "Yr unig beth dwi'n cofio ydi cario bwrdd ganol nos achos doedd ganddo ni ddim pres i gael fan na dim.
"Roedda' ni'n cario pethau yn hwyr yn y nos neu ben bore - i guddio bod ni'n symud, dim bod ni 'efo cywilydd ein bod ni'n mynd ond cywilydd bod ni methu fforddio neb i helpu ni."
Yr effaith ar ei hiechyd meddwl oedd waethaf.
Tra bod ei theulu, rhai ffrindiau ac aelodau o'r gymuned wedi ei chefnogi, roedd eraill yn troi eu cefnau arni, yn ei hanwybyddu ac yn gas tuag ati o flaen ei phlentyn. Ei ffordd hi o ymdopi oedd cuddio rhag y byd.
"Pan oedd y ferch yn yr ysgol neshi ddim gadael y tŷ, jest mynd â hi i'r ysgol ac aros yn tŷ trwy'r adeg. Iselder oedd o ac ofn... ofn sut oedd pobl yn mynd i fod 'efo fi.
"Roedd o'n anodd ofnadwy siarad amdano fo, a chael rhywun yn d'eud 'ti di neud o' a 'ma peth a peth yn deud ti di neud o'. Doedd neb yn fodlon gwrando ar ochr fi, do'n i methu dweud wrthyn nhw be' oedd wedi digwydd, roedda nhw wedi penderfynu a dyna fo."
"Dwi'n cofio cael cnoc ar ddrws ffrynt a gweld siâp rhyw ddyn yn gwisgo high vis... a chuddiad tu ôl i'r soffa, a chau agor y drws. Pwy oedd yna ond Noel Thomas, y creadur.
"Roedd o wedi clywed bod fi'n styc yn tŷ a dyma fo'n dweud tyrd allan 'efo dy ben i fyny, sgen ti ddim byd i fod cywilydd amdano, wnawn ni gwffio hwn 'efo'n gilydd."
'Ro'n i mor isel'
Bob bythefnos roedd yn rhaid iddi gael cyfarfod gyda'r gwasanaeth prawf i drafod ei thwyll, ac roedd methu dweud y gwir yn ei chorddi.
"Ro'n i wedi cael fy warnio gan twrne fi 'paid â dweud bod chdi ddim wedi neud o neu os ti'n deud bod chdi ddim 'di neud o neith nhw fynd a chdi'n syth nôl i cwrt a fyddi di'n jêl'.
"Wrth bod fi'n gorfod d'eud celwydd wrth rhain ro'n i'n torri nghalon bob tro o'n i yna. Roedda nhw'n trio dysgu fi sut i ddelio 'efo pres a sut i budgetio a ballu, roedd o'n ofnadwy. Ddudodd un ddynes, 'gei di ddim gweithio mewn charity shops - dim ar ôl be ti di neud'."
Fu bron i'r straen fod yn ormod iddi.
"Ro'n i isho difa fy hun. Dwi'n cofio mynd i weld cyfreithiwr gynta' a fo'n dweud 'ei di drwy dwnnel du ofnadwy ond ddoi di allan'.
"Ro'n i mor isel."
Dywedodd mai meddwl am ei merch roddodd y cryfder iddi barhau.
"Dwi'n gwybod bod hyn yn swnio'n hunanol ond ro'n i'n meddwl 'neith y gŵr copio'n iawn ond neith hi ddim'."
Roedd effaith corfforol i'r straen hefyd. Fe ddatblygodd diabetes a cholli ei gwallt ar ôl cael alopesia yn 2013 oherwydd y sioc.
Ond yn raddol fe fagodd hyder i frwydro yn ôl.
Dechreuodd wirfoddoli a chael cynnig gwaith - ac mae'n ddiolchgar i'r unigolion hynny wnaeth ymddiried ynddi.
Roedd Noel yn d'eud 'na caria mlaen'
Fe ymunodd gyda'r grŵp o is-bostfeistri eraill, yn cynnwys Noel Thomas, oedd wedi diodde' yr un fath ac yn ymgyrchu am gyfiawnder.
"Roedd 'na amser pan o'n i'n meddwl 'dwi yn erbyn y frenhines sgen i ddim hope'.
"Ro'n i'n meddwl rhoi give up ond roedd Noel yn d'eud 'na caria mlaen'. Do'n i'm yn darllen gormod [am yr ymgyrch], roedd o'n ormod ar fy mhen i i concentratio arno fo."
Ar ôl blynyddoedd o frwydro, ac yng nghanol achos llys hir yn erbyn dros 500 o is-bostfeiftri yn 2019, fe wnaeth Swyddfa'r Post gydnabod bod diffygion wedi bod yn y system gyfrifiadurol yn y gorffennol ac ymddiheuro.
Roedd yn rhaid i Mrs Williams ddisgwyl dros flwyddyn arall i adfer ei henw da. Fis diwethaf, fe wnaeth y Llys Apêl ddileu ei heuogfarn hi a 38 o is-bostfeistri eraill.
Mae disgwyl i fwy o'r dros 700 gafodd eu herlyn gan Swyddfa'r Post rhwng 2000 a 2014 apelio yn y dyfodol.
"Roedda ni i gyd yn crio", meddai. "Dwi dal ddim yn coelio fo pan dwi'n gweld o ar y teledu. Mae'n ofnadwy be' maen nhw wedi gwneud i ni."
Ond dydy'r cyfan ddim drosodd eto.
Yn sgil beirniadaeth hallt gan y barnwr yn achos 2019 mae cwestiynau mawr i'w hateb gan Swyddfa'r Post a'r cwmni cyfrifiadurol Fujitsu ynglŷn â pham bod cymaint wedi eu herlyn ar gam, ac oedd unrhyw un wedi celu tystiolaeth fyddai wedi arbed llawer o erlyniadau.
Dywedodd cwmni Fujitsu eu bod yn cymryd y ddyfarniad yn ddifrifol iawn ac am ei adolygu'n fanwl.
Yr wythnos yma, fe gafodd Mrs Williams, a'r is-bostfeistri eraill yn y Llys Apêl, lythyr o ymddiheuriad gan gadeirydd Swyddfa'r Post, Tim Parker.
Fe ddywedodd bod Swyddfa'r Post yn derbyn penderfyniad y Llys Apêl ac nad oedd hi wedi cael gwrandawiad teg gan nad oedd y post wedi ymchwilio'r mater yn llawn nac wedi datgelu tystiolaeth.
Roedd yn addo bod Swyddfa'r Post am ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol.
Mae ymchwiliad gan farnwr nawr ar y gweill fydd gyda'r grym i fynnu bod unigolion yn rhoi tystiolaeth ar lw.
'Rhaid i rywun gymryd y bai'
"Mae rhywun fod yn accountable am hyn - roedd rhywun yn gwybod," meddai Mrs Williams.
"Rhaid i rywun gymryd y bai a chael eu cosbi. Faswn i ddim isio mynd mor bell â fod rhywun yn mynd i jêl, er bod nhw'n haeddu fo, achos dwi'n swp sâl yn meddwl am jêl, ond mae rhywun fod yn accountable. All nhw ddim cael get away 'efo fo."
Ond waeth beth fydd pendraw'r sgandal, mae'r cyfan wedi gadael ei ôl ar Mrs Williams.
"Dylwn i ddim crio, ond fedra i ddim stopio weithiau. Mae o dal yn effeithio chdi a dwi jest yn meddwl am y teulu sut maen nhw wedi syffro a sut maen nhw wedi bod yn gefn i fi.
"Dwi'n gwybod dwi fod yn hapus rŵan ond mae pethau dal yn cefn dy feddwl di. Dwi ddim mor happy go lucky ac o ni ers talwm. Dwi ddim yr un person."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2021
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021