Strategaeth cerbydau trydan yn 'embaras', medd adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru er mwyn cael mwy o gerbydau trydan ar y ffyrdd yn "embaras", yn ôl adroddiad newydd.
Mae pwyllgor trawsbleidiol yn Senedd Cymru wedi edrych ar y cynllun i ddatblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru ar draws Cymru.
Dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith bod nifer fawr o addewidion heb gael eu gwireddu.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd AS bod y strategaeth wedi bod yn llawn "addewidion wedi'u torri a chynnydd annigonol".
Mewn ymateb, dywed Llywodraeth Cymru bod Cymru wedi gweld y twf mwyaf mewn pwyntiau gwefru a phwyntiau gwefru cyflym ar draws y DU.
Cafodd llai na hanner o'r prif ymrwymiadau eu cyflwyno ar amser, tra bod gwaith ar eraill ond ar fin dechrau, sawl mis wedi'r terfyn amser.
Dywed y pwyllgor bod y diffyg cynnydd yn bwrw amheuaeth ar allu'r llywodraeth i wireddu eu cynlluniau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae "diffyg capasiti grid trydan yn broblem sylweddol".
Roedd hyn yn cynnwys creu grŵp cysylltiadau i gydlynu'r broses o ddatblygu'r seilwaith yma, ond nid yw'r grŵp wedi cael ei sefydlu.
Roedd cynnig arall i sefydlu grŵp er mwyn dod â sefydliadau cymunedol at ei gilydd er mwyn penderfynu ar y mannau gorau am bwyntiau gwefru hefyd heb gael ei wireddu.
'Rhaid i mi gynllunio ymlaen llaw'
Mae Gwenllian Owen o Langefni, Ynys Môn, newydd brynu cerbyd electrig gan gael gwared ar ei char petrol.
Dywedodd: "Dwi'n credu mai fy mhryder fwyaf oedd: ble fydd yn cael ei wefru? Faint mae'n mynd i gostio i mi ei wefru? Yn enwedig rwan bod cost trydan a phopeth mor uchel.
"Mae'n gweithio allan yn eitha' da. Dwi siŵr o fod yn gwario tua £50 y mis i'w wefru, tra gyda fy nghar blaenorol, i'w lenwi bob wythnos a hanner i bythefnos, byddai hynny'n costio tua £75 i £80 i wneud hynna."
Mewn ymateb i argaeledd pwyntiau gwefru, ychwanegodd: "Does dim amheuaeth am hwnna - mae yna angen.
"Mae yn digwydd, ond mae'n digwydd ar raddfa arafach, felly mae angen llawer mwy o fuddsoddiad gan y llywodraeth i sicrhau bod y cyfleusterau yno i bobl pan maent yn teithio.
"O ogledd i de Cymru, mae hynny'n siwrnai bydden i'n ei wneud mewn motorhome, ond byddai'n wir raid i mi gynllunio ymlaen llaw os fydden i'n gyrru lawr yn fy ngar electrig achos byddai sawl stop ar y ffordd lle byddai'n rhaid i mi ailwefru.
"Felly ie, mae'n llawer o baratoi, ond mae'n rhan o'r cyffro, ond yw e?
"Rwy'n falch gyda fe. Mae'n dawel, mae'n lan a dwi'n teimlo fy mod yn gwneud fy rhan am yr amgylchedd."
Diffyg pwyntiau gwefru'n rhwystr
Bu'r pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant.
Dywedodd y Society of Motor Manufacturers and Traders (SMMT) wrth y pwyllgor bod yna 37,000 o bwyntiau gwefru ar draws y DU ar hyn o bryd, ond dim ond 2,400 o'r rhain sydd yng Nghymru.
Fe wnaeth y BBC gysylltu gyda SMMT i wirio'r ffigyrau yma a dywedodd y gymdeithas eu bod yn ffigyrau bras am 2022 wedi'u seilio ar ddata ar y pryd.
Dywedodd Cymdeithas Cerbydau Trydan Cymru (EVA Cymru) mai diffyg pwyntiau gwefru cyflym ar lwybrau allweddol ledled Cymru yw'r rhwystr mwyaf arwyddocaol i'r defnydd o gerbydau trydan.
Clywodd y pwyllgor bod un gwefrydd cyflym fesul 15,000 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd o'i gymharu ag un fesul 11,000 o bobl yn y DU, er gwaethaf twf mawr yn nifer y gwefrau dros y blynyddoedd diwethaf.
O ran caffael pwyntiau gwefru mewn eiddo domestig a masnachol, dywedodd EVA Cymru wrth y pwyllgor bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi methu adolygu rheoliadau adeiladu er mwyn sicrhau mannau parcio a phwyntiau gwefru digonol.
Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwblhau adolygiad cyn gynted â phosib er mwyn ystyried sut mae annog gwestai ac atyniadau i gael pwyntiau gwefru.
'Targedau eisoes wedi'u methu'
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: "Mae symud i Gymru wyrddach yn golygu bod mwy ohonom yn newid o gerbydau petrol neu ddisel i fodelau trydan.
"Fodd bynnag, fe fydd pobl eisiau gwneud hynny dim ond os yw'r seilwaith gwefru yng Nghymru yn ddigon da, a'n bod ni'n hyderus y gallwn wefru ein ceir pan fydd angen. Yn rhwystredig ddigon, mae hyn ymhell o fod yn wir heddiw.
"Bu rhywfaint o gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, ond dyw'r sefyllfa sydd ohoni ddim yn agos i'r hyn y dylai fod.
"Dyw Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ddim yn 18 mis oed, eto ac mae rhai o'r targedau eisoes wedi'u methu. Mae hyn yn annerbyniol - ac yn embaras.
"Pan ysgrifennwyd y cynllun hwnnw, fe ddisgrifiwyd Cymru fel bod â'r nifer isaf o gerbydau trydan a'r nifer isaf o bwyntiau gwefru ym Mhrydain Fawr, a does 'na'r un peth yr ydym wedi'i weld ers hynny fyddai wedi newid y ffaith ddigalon honno.
"Ar sawl mater, mae'n fwy addas ei alw'n 'gynllun diffyg gweithredu'.
"Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd gan Lywodraeth Cymru ond mae eu cynnydd ar y mater hollbwysig hwn eisoes yn annigonol.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru wella'r sefyllfa a dilyn argymhellion y Pwyllgor os ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â lleihau allyriadau carbon y genedl, a chael mwy ohonom ni i mewn i gerbydau trydan."
'Dim embaras o gwbl'
Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters bod y llywodraeth wedi gwneud "cynnydd rhesymol" ond bod "lle i wella".
"Dwi ddim yn teimlo embaras o gwbl," meddai. "Rydym yn gwneud cynnydd rhesymol, mae angen gwneud yn well ond mae gennym gynllun ac rydym ar y trywydd iawn.
"O ran yr arian, mae hyn o ganlyniad i ddiffyg hyblygrwydd gan Lywodraeth y DU - roedd gennym rywbeth fel £2 biliwn i'w wario mewn amser byr iawn.
"Cawsom ein beirniadu gan y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus bythefnos yn ôl am fod ar ormod o frys i wario'r arian cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
"Rydym nawr yn cael ein beirniadu am wneud fel arall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021