Cyrff cyhoeddus yn dal i ddibynnu ar geir petrol a disel
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorau Cymru, byrddau iechyd a sefydliadau eraill sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth yn dal i ddibynnu'n fawr ar geir petrol a disel, yn ôl ymchwil gan y BBC.
Mae rhai eto i osod pwynt gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar eu tir.
Dywedodd y gwrthbleidiau y dylai'r ffigyrau fod yn arwydd i'r llywodraeth weithredu, os am gyrraedd y targedau newid hinsawdd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i'w cynorthwyo" i symud tuag at fflyd o gerbydau heb allyriadau.
Gofynnodd BBC Cymru i'r 44 corff cyhoeddus sy'n atebol i Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol am wybodaeth am eu fflydoedd ceir.
O dan gyfraith unigryw Cymru, mae'n ofynnol iddynt ystyried effaith amgylcheddol pob penderfyniad.
Mae'r data'n awgrymu bod tua wyth o bob 10 car y mae cyrff cyhoeddus yn berchen arnynt neu'n eu prydlesu yn rhedeg ar betrol neu ddisel.
Cofnodwyd cyfanswm o 4,485 o geir - mae 3,749 yn defnyddio tanwydd ffosil (84%), 417 yn drydan (9%), 315 hybrid (7%) a 4 hydrogen (0.01%).
Yn y cyfamser cofnodwyd bod 513 o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan wedi'u gosod ar dir sy'n eiddo i'r cyrff cyhoeddus.
O'r 42 sefydliad a ymatebodd i geisiadau o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth - mae wyth eto i osod pwynt gwefru sengl ar gyfer cerbydau trydan.
Y rhain yw Cyngor Celfyddydau Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Bwrdd Iechyd Powys, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.
Nododd y byrddau iechyd fod ganddyn nhw gynlluniau ar y gweill a fyddai'n gweld gwefryddion yn cael eu gosod yn y dyfodol agos.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 - targed sydd i fod i gael sgil-effeithiau ar y gymdeithas ehangach.
Pan lansiwyd y nod yn 2017, dadleuodd gweinidogion fod cyrff cyhoeddus mewn "sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar allyriadau yn llawer ehangach mewn meysydd fel trafnidiaeth".
Y gred yw, pe bai cyrff mawr a gefnogir gan y llywodraeth yn newid i geir trydan ac yn buddsoddi yn yr isadeiledd sydd ei angen, byddai'n ei gwneud hi'n haws ac yn rhatach i'r cyhoedd wneud yr un peth.
Dywedodd Alex Woodward, mentor hyfforddwr moduro yng nghanolfan cerbydau trydan a hybrid newydd Coleg Cambria yn Wrecsam ei fod yn teimlo "rhwystredigaeth enfawr" nad yw sefydliadau yn symud yn gyflymach i drydaneiddio eu fflydoedd.
"Mae'r swm o arian y gallant ei arbed ar gyfer eu busnes yn enfawr," meddai.
"Ar gyfer cerbyd trydan pur, mae'r costau rhedeg rhwng 3-5 ceiniog y filltir, ond mae car petrol neu ddisel tua 15-18 ceiniog y filltir."
Byddai cael cynghorau i osod mwy o bwyntiau gwefru hefyd yn annog y cyhoedd i brynu a defnyddio cerbydau trydan, awgrymodd.
"Mae'n no-brainer, ac mae'n rhaid i ni ei wneud dros yr amgylchedd beth bynnag."
Dywedodd Natasha Asghar AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth fod y ffigyrau'n "syfrdanol".
"Dylai Llywodraeth Cymru ddechrau wneud yr hyn maen nhw'n ei bregethu," meddai.
"Mae'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth i bobl Cymru fel eu bod nhw'n gallu prynu'r cerbydau trydan holl bwysig hynny."
Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar newid hinsawdd Delyth Jewell AS bod ei phlaid am weld diwedd ar geir petrol a disel yn fflyd y sector cyhoeddus erbyn 2025.
"Dwi'n meddwl bod angen i'r sector cyhoeddus wneud mwy er mwyn arwain y ffordd i bobl yng Nghymru," meddai.
"Mae'r ffigyrau yn peri pryder. Mae cymaint o ffordd ni dal angen mynd er mwyn cyrraedd net zero mewn pryd.
"Dwi wir yn gobeithio y bydd y ffigyrau yma yn eu hannog nhw i wneud rhywbeth ar frys."
Un cyngor sy'n disgrifio'i hun fel un blaenllaw yw Casnewydd - gyda'r nod o drydaneiddio pob cerbyd bach yn ei fflyd o 200 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Maen nhw'n bwriadu trydaneiddio yr holl gerbydau mawr erbyn 2030, ar ôl defnyddio lori sbwriel cwbl drydan gyntaf Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Jason Hughes, aelod cabinet y ddinas ar gyfer datblygu cynaliadwy, nad oedd y ffigyrau y mae BBC Cymru wedi'u datgelu wedi eu synnu a bod trydaneiddio fflyd yn gymhleth.
Ychwanegodd bod angen gweithredu ar frys i atal sgil effeithiau cynhesu byd-eang.
"Mae pawb yn gwybod ar hyn o bryd y problemau sydd ganddo ni gyda newid hinsawdd. Mae'n bwysig bod y ddinas yn chwarae ei rhan wrth wella pethau," meddai.
Mae cyflymu'r symudiad i ffwrdd o geir petrol a disel i gludiant heb allyriadau yn un o nodau allweddol yn uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow fis Tachwedd.
Mae'r data'n awgrymu mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r cerbydau allyriadau isaf - 168 o geir trydan a 117 hybrid - sef 20% o'r fflyd yr adroddwyd ganddyn nhw.
Roedd 83% o'r 23 car a adroddwyd gan Gyngor Sir Penfro naill ai'n danwydd trydan, hybrid neu hydrogen.
Roedd ffigyrau Llywodraeth Cymru ei hun yn cynnwys dadansoddiad o'r ceir a ddefnyddir i gludo gweinidogion - naw disel, un hybrid a thri thrydan.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru, drwy wasanaethau ynni Llywodraeth Cymru, i'w cynorthwyo i symud tuag at fflyd gyda sero allyriadau ac i leihau'r galw am geir fflyd.
"Ry'n ni hefyd yn mabwysiadu'r un ffordd o weithio wrth feddwl am ein fflyd ni o gerbydau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021
- Cyhoeddwyd4 Mai 2021