Safleoedd gwefru ceir trydan bob 20 milltir erbyn 2025
- Cyhoeddwyd

Bydd safleoedd gwefru ceir trydan bob 20 milltir ar briffyrdd Cymru erbyn 2025, os yw cynlluniau newydd yn cael eu gwireddu.
Mae'r nod yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pwyntiau gwefru - mae'r manylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
Yn ôl Lee Waters AS, y bwriad yw rhoi "hyder i yrwyr newid wrth i'r galw am gerbydau trydan gynyddu".
Tra bod y llywodraeth yn dweud eu bod yn fesurau "uchelgeisiol", mae angen bod yn "radical" yn ôl un defnyddiwr car trydan.
Mae dros 1,000 o lefydd cyhoeddus i roi trydan i gar yng Nghymru ar y funud, sydd gyfystyr ag un i bob chwe cherbyd.
Ceir trydan: "Gorddibynnu ar geir petrol a disel"
Edrych ar y dyfodol mae'r strategaeth, yn ôl Mr Waters, y dirprwy weinidog dros newid hinsawdd.
"Ar hyn o bryd mae digon o fannau trydanu ar gyfer y nifer o geir sydd gyda ni ond fel mae'r nifer yn codi bydd rhaid i ni gael mwy o fannau a dyna holl bwrpas y strategaeth rydyn ni'n lansio heddiw," meddai.
I gyrraedd y nod o gael pwyntiau gwefru ar bob 20 milltir o rwydwaith cefnffyrdd Cymru erbyn 2025, mae'r llywodraeth yn edrych i weithio gyda'r sector breifat.
Ond mae 'na hefyd fesurau i gydweithio ag awdurdodau lleol, gan ddefnyddio'r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel - sydd eisoes yn bodoli - i ariannu 300 o bwyntiau ledled y wlad erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Un o'r prosiectau sydd wedi ei ariannu gan y gronfa ac sydd ar fin agor yw pum pwynt gwefru cyflym ar yr A48 yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin.

Dywed y llywodraeth y bydd rhaid moderneiddio'r grid trydan i gael pwyntiau gwefru bob 20 milltir
"Mae 'na her, ac ry'n ni wedi bod yn araf o'r dechre, ond mae hwn yn enghraifft o be' ni'n gallu'i wneud," meddai Dr Neil Lewis, rheolwr Ynni Sir Gâr.
"Mae'n rhoi hyder i bobl eu bod nhw'n gallu gyrru o ogledd Cymru i'r de - achos ar y foment, mae'n anodd ofnadwy."
'Angen mesurau radical ar gyfer newid'
Ers blwyddyn mae David Thomas o ardal Wrecsam wedi bod yn defnyddio car trydan.
Mae'n gallu teithio tua 260 milltir yn y cerbyd ar fatri llawn - ac mae ganddo bwynt gwefru adref ac yn y gwaith - felly prin mae'n defnyddio pwyntiau cyhoeddus.
Ond mae'n credu bod angen mesurau "radical" i sbarduno newid cymdeithasol mawr.

Mae David Thomas yn gwefru ei gar adref ac yn y gwaith
"Mae definitely angen bod yn radical, yn enwedig o ran buddsoddiad - mae o angen bod yn enfawr," meddai.
"Dwi ddim yn gweld llawer o bwynt rhoi un neu ddau bwynt trydanu mewn maes parcio'r cyngor, achos dydy hynny ddim yn mynd i gael niferoedd mawr [i droi at geir trydan]."
Mae Mr Waters yn dweud bod y strategaeth yn "uchelgeisiol" ond mae'n cydnabod bod rhwystrau hefyd, gan gynnwys yr "her enfawr" o foderneiddio'r grid trydan cenedlaethol.
"Rydyn ni'n rhagweld bydd y galw am drydan, wrth i ni ddatgarboneiddio a throi at geir a phethau trydan eraill, yn cynyddu 50%, ac mae angen grid sy'n addas," meddai.
"Mae'n ddigon da i nifer y ceir trydan sydd gennym ni nawr, ond mae angen sicrhau ei fod yn dal i fyny."


Profi cyn prynu
Yn ôl Huw Davies o Bartneriaeth Ogwen, mae'n rhaid i gymdeithas addasu i'r heriau amgylcheddol sy'n ein hwynebu ni.
"Yn sicr mae cyhoeddiad y dirprwy weinidog i'w groesawu, mae'r isadeiledd wedi bod yn wan yn enwedig yng nghefn gwlad," meddai.
"Be' sydd yn rhaid i ni ei wneud ydy rhoi hyn yng nghyd-destun newid hinsawdd, gyda chynhadledd COP 26 ar y gweill, mae'n rhaid i ni fel cymdeithas a chymuned symud at deithio llai yn un peth, a defnyddio cerbydau sydd ddim yn llygru ein hamgylchedd ni heddiw."
Mae gan Bartneriaeth Ogwen gynllun o'r enw 'Dyffryn Gwyrdd' ar waith ar hyn o bryd, sydd â'r nod o daclo tlodi hinsawdd a gwella trafnidiaeth gymunedol.
"Mae gennym ni ddau gerbyd trydan ar hyn o bryd, 'da ni wedi cael cefnogaeth gan y loteri a'r gymdeithas trafnidiaeth gymunedol, ac wedyn mae trydydd car ar ei ffordd trwy gronfa hwb i'r hinsawdd y loteri.
"Bydd hwnnw'n gar y bydd modd i bobl ei hurio a'i fenthyg - yn lle bo' nhw'n prynu car trydan, bydd modd ei ddefnyddio am awr neu am ddiwrnod er mwyn deall sut maen nhw'n gweithio a gweld y realiti o ran gwefru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021
- Cyhoeddwyd6 Medi 2020