Bachgen, 9, yn dod o hyd i ffosil 200 miliwn oed ar draeth

  • Cyhoeddwyd
Elijah Morris
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Eli o hyd i'r ffosil prin ar y clogwyni ger traeth Llanilltud Fawr

Mae bachgen naw oed o Abertawe wedi darganfod ffosil prin ar draeth ym Mro Morgannwg.

Roedd Eli Morris, o'r Gellifedw yn chwilio am ffosilau gyda'i dad yn Llanilltud Fawr pan edrychodd i ben y creigiau.

"O'n i jest yn ishte 'ma ac edryches i lan a meddwl 'ma' hwnna'n anferth!'" meddai.

Y gred yw bod yr amonit mawr wedi dod i'r golwg ar ôl i ran o'r clogwyn dorri'n rhydd a disgyn i'r ddaear.

Mae arbenigwyr yn dweud bod maint y ffosil ac eglurder ei fanylion yn golygu ei fod yn ddarganfyddiad prin iawn.

'Gweithgaredd teuluol'

Mae hel ffosiliau'n rhywbeth mae Eli a'i dad Glenn yn gwneud yn aml.

"Ry'n ni bob amser ar yr arfordir yn rhywle, y Gŵyr fel arfer, ond dydd Sul d'wetha' oedd ein tro cynta' yma, felly lwc pur o'dd hyn," meddai Glenn.

Ffynhonnell y llun, Glenn Morris
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod y ffosil tua 200 miliwn o flynyddoedd oed

"Ro'n i'n hoff iawn o ddeinosoriaid a chreigiau a'r un pethe ag Eli a fi'n meddwl mod i wedi paso nhw lawr ato fe," meddai.

Mae gan Eli gasgliad sylweddol o ffosilau adref sy'n llenwi ei ystafell wely, y lolfa, y gegin a'r grisiau.

"Maen nhw'n ddiddorol ac rwy'n hoffi eu siâp a'r ffordd y maen nhw'n teimlo, mae'n cŵl," medd Eli.

'Dangos bywyd cyfoethog y môr'

Yn yr Oes Jwrasig y cafodd y creigiau ar y traeth eu ffurfio o garreg galch las y cyfnod Liasig.

Tua 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd lefelau'r môr yn newid yn aml.

Pan oedd yna ddŵr bas trofannol fe gafodd carreg galch ei adael ar ôl ond pan oedd lefelau'r môr yn ddyfnach fe gafodd carreg laid ei adael yno, gan greu'r creigiau trawiadol sydd yno heddiw.

"Mae'r ffosilau'n dangos bywyd cyfoethog y môr," meddai Dr Nick Felstead, darlithydd mewn daearyddiaeth ffisegol ym Mhrifysgol Abertawe, "ac mae rhai yn hawdd i'w darganfod, fel gastropodau neu gryphaea."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eli a'i dad Glenn yn mwynhau hel ffosiliau gyda'i gilydd ac mae ganddynt gasgliad mawr

Ychwanegodd Dr Felstead: "Amonit yw'r ffosil wnaeth Eli ei ddarganfod sy'n perthyn yn agos i octopws neu fôr-lawes, sy'n anarferol iawn yn Llanilltud Fawr.

"Mae 'na garreg wen wedi ffurfio yn ystod y broses o greu'r ffosil sy'n gwneud hwn yn drawiadol iawn!"

Roedd Eli yn amau bod y ffosil tua 66 miliwn o flynyddoedd oed, ond y gred bellach yw ei fod 134 miliwn o flynyddoedd yn hyn na hynny.

Felly a ydy Eli eisiau astudio ffosilau pan mae'n hŷn?

"Na, fi ddim moyn bod yn baleontegydd, fi moyn bod yn bêl-droediwr!"

Pynciau cysylltiedig