Galw am ddychwelyd gweddillion yr Arglwyddes Goch i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar i weddillion Arglwyddes Goch Paviland gael eu dychwelyd i Gymru - a hynny 200 mlynedd wedi i wyddonwyr ddod o hyd iddyn nhw mewn ogof ar Benrhyn Gŵyr.
William Buckland, gweinidog ac athro daeareg cyntaf Prifysgol Rhydychen, ddaeth o hyd i'r gweddillion - sydd o gorff dyn mewn gwirionedd - ar 18 Ionawr 1823.
Yn syth fe'u cludwyd i amgueddfa ym Mhrifysgol Rhydychen ac ers hynny mae yna alw wedi bod ar i'r gweddillion gael eu dychwelyd i Gymru.
Am ganrif wedi'r darganfyddiad doedd neb yn siŵr iawn beth oedd wedi'i ganfod.
Gyda'r sgerbwd wedi'i orchuddio mewn ocr coch, neu haearn ocsid roedd Buckland yn credu bod yr Arglwyddes Goch yn butain Rufeinig neu'n wrach.
Ond fe wnaeth ymchwiliadau pellach ar hyd y canrifoedd ddatgelu bod y gweddillion yn rhai gwrywaidd ac yn deillio o gyfnod rhwng 33,000 a 34,000 o flynyddoedd yn ôl.
Yn 1912, cafwyd mwy o wybodaeth am y canfyddiadau a hynny wedi i'r archaeolegydd William Solace ail-ymweld â'r ogof yn Paviland.
Wedi iddo ddod o hyd i bicelli ac offer o garreg daeth i'r casgliad bod y gweddillion yn perthyn i heliwr yn ystod cyfnod sy'n cael ei adnabod fel yr Oes Iâ ddiwethaf.
Mae Byron Davies cyn-AS Gŵyr, sydd bellach yn Arglwydd Gŵyr, wedi bod yn galw ers tro am i weddillion yr Arglwyddes Goch gael eu dychwelyd i Gymru.
"Rwy' wedi cael fy magu ym Mhorth Einon ger Paviland a wastad wedi bod â diddordeb yn y gweddillion," meddai.
"Fel gwleidydd dechreuais fod â rhan mewn ymgyrch i ddod â gweddillion yr Arglwyddes Goch yn ôl i Gymru.
"Ond o ystyried pa mor fregus yw'r gweddillion a'r gost o ddod o hyd i gartref parhaol iddyn nhw, dwi ddim yn siwr a fyddan nhw'n dychwelyd."
Mae'r Arglwydd Davies yn cyfaddef y dylai materion pwysicach na dychwelyd y gweddillion hawlio arian cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond mae'n dweud nad yw ei freuddwyd ar ben.
Ond mae'n rhaid cael gwared â'r gyfriniaeth Gymreig sydd wedi'i chreu o gwmpas gweddillion yr Arglwyddes Goch, medd yr Athro George Nash o Lerpwl a Phrifysgol Coimbra ym Mhortiwgal.
"Mae rhai wedi dweud bod y gweddillion yn perthyn i un o gyn-dadau'r Cymry ond ffwlbri yw hynny.
"Y tebyg yw eu bod o dras Affricanaidd neu Arabaidd - a bod y dyn yn ceisio dianc rhag ryw gythrwfl neu orboblogi yn ei famwlad.
"Ond er nad yw'r dyn yn rhan o'n llinach mae'r darganfyddiad yn allweddol yn hanes Cymru.
"Os oes unrhyw ffordd o ddychwelyd y gweddillion i Gymru yn ddiogel - ac mae yn 'os' mawr - rwy'n credu'n bendant mai dyna'r peth iawn i'w wneud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2018