Tynnu dau o'u car wedi gwrthdrawiad â bws yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a dynes wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a bws dau lawr yn Sir y Fflint nos Fercher.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A548 ym Mostyn tua 18:00 yn ardal caeau chwarae Glan y Don.
Bu'n rhaid i yrrwr y car a'r ddynes oedd yn teithio ynddo gael eu tynnu o'u cerbyd, yn ôl y gwasanaeth tân ac achub.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod un person wedi ei gludo i Ysbyty Aintree yn Lerpwl a'r llall i Ysbyty Glan Clwyd.
Fe ychwanegodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân fod rhai o'r teithwyr oedd ar y bws wedi cael mân anafiadau.
Fe wnaeth cwmni Arriva gadarnhau mai un o'u bysiau nhw oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad a dywedon eu bod yn cynorthwyo'r heddlu gydag ymholiadau.
Rhybuddiodd Heddlu'r Gogledd fod disgwyl i'r ffordd fod ar gau am "beth amser" gan gynghori pobl i osgoi'r ardal nos Fercher.