Disgwyl i gampws newydd Coleg Menai gwerth £20m agor yn 2024

  • Cyhoeddwyd
Y campws newyddFfynhonnell y llun, Coleg Menai
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y campws yn cynnig yr offer a'r dechnoleg ddiweddaraf, yn ôl penaethiaid y coleg (llun artist)

Mae disgwyl i gampws newydd Coleg Menai ar gyrion Bangor agor i fyfyrwyr ym Medi 2024.

Y llynedd, fe enillodd y corff sy'n gyfrifol am y coleg apêl cynllunio i symud eu campws ynghanol Bangor i safle ar Barc Menai ar gyrion y ddinas.

Ar ôl cwblhau'r gwaith, bwriad Grŵp Llandrillo Menai ydy symud yr holl feysydd sydd ar gael yn Ffordd Ffriddoedd i'r safle newydd gwerth £20m.

Bydd yr adeilad newydd ar safle Tŷ Menai, a agorodd yn 2004 ar gost o £17.8m, ond sydd wedi bod yn "hanner gwag ers ei agor", yn ôl datblygwyr y cynllun newydd.

'Gwella'r profiadau dysgu'

Yn ôl penaethiaid y coleg, bydd y symud yn eu galluogi i gynnig yr offer a'r dechnoleg ddiweddaraf.

Ond roedd Cyngor Gwynedd yn bryderus am yr effaith o symud cannoedd o fyfyrwyr allan o ganol y ddinas.

Yn ôl swyddogion y cyngor byddai caniatáu'r symud yn "tanseilio prysurdeb a swyddogaeth canol y ddinas" gan arwain at "leihau nifer y bobl sy'n ymweld â'r canol".

Ond anghytuno wnaeth arolygwyr cynllunio wedi'u penodi gan Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae campws Coleg Menai ar Ffordd Ffriddoedd ym Mangor ar hyn o bryd

Mae adran gelf y coleg eisoes wedi'i lleoli ym Mharc Menai.

Ymysg y cyfleusterau newydd fydd stiwdio berfformio 180 sedd i gynnal perfformiadau a sioeau byw.

Bydd paneli solar, pympiau gwres o'r aer a goleuadau LED hefyd yn helpu i sicrhau bod y datblygiad yn un Carbon Sero Net.

Mae'r cynllun wedi derbyn £14m gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Coleg Menai
Disgrifiad o’r llun,

Tŷ Menai fydd cartref newydd campws Bangor

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Mae'r campws newydd cyffrous hwn yn gyfle i ni arloesi mewn addysgu trawsadrannol a fydd yn gwella'r profiadau dysgu a gaiff y dysgwyr.

"Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd y cyfleuster yn cryfhau ein cysylltiadau â'n phartneriaid mewn diwydiant a fydd gobeithio'n defnyddio'r campws i gynnal dosbarthiadau meistr ac arddangosiadau."

Ychwanegodd: "Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth gyson ac am y pecyn ariannu hael rydyn ni wedi ei gael ar gyfer y prosiect hwn."

Ffynhonnell y llun, Coleg Menai
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o sut mae un o'r ystafelloedd dysgu yn debygol o edrych

Read Construction sydd wedi sicrhau'r cytundeb i drosi'r adeilad ar Barc Menai, sef Tŷ Menai.

Agorodd yr adeilad hwnnw yn 2004 ar gost o £17.8m gan Awdurdod Datblygu Cymru fel rhan o'r rhaglen Technium.

Ond clywodd cynghorwyr yn trafod y cais cynllunio gwreiddiol fod yr adeilad wedi bod yn "hanner gwag ers ei agor".

Dywedodd y datblygwyr y byddan nhw'n "defnyddio cwmnïau lleol a chyflogi pobl leol i weithio ar y cynllun uchelgeisiol hwn".

Sefydlwyd Grŵp Llandrillo Menai yn 2012 yn dilyn uno Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.

Dywed eu gwefan fod y corff yn cyflogi 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i tua 21,000 o fyfyrwyr yn siroedd Môn, Conwy, Dinbych a Gwynedd.

Pynciau cysylltiedig