Hen feic DJ Williams i'w arddangos ar ôl bod mewn garej

  • Cyhoeddwyd
Beic DJ Williams
Disgrifiad o’r llun,

Bydd beic DJ Williams yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Ein Hanes yn Abergwaun

Bydd hen feic a fu unwaith yn eiddo i'r llenor a'r cenedlaetholwr DJ Williams yn cael ei arddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf - ar ôl cael ei gadw mewn garej am flynyddoedd.

Roedd DJ Williams yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru, ac fe dreuliodd naw mis yn y carchar gyda Saunders Lewis a'r Parchedig Lewis Valentine am losgi ysgol fomio'r llu awyr ym Mhenyberth ym 1936, digwyddiad a ddaeth i gael ei adnabod fel y Tân yn Llŷn. 

Bu farw yn 1970 yn Rhydcymerau, yr ardal ble cafodd ei fagu.

Fe dreuliodd DJ ran helaeth o'i fywyd fel athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abergwaun, ac am nad oedd yn gyrru, roedd yn tueddu i deithio'r fro ar gefn beic. 

Dirwy am feicio heb olau

Ar benwythnosau, roedd yn mynd i bregethu. Un nos Sul, cafodd ei ddal gan blismon ym Mathri a'i ddirwyo am feicio heb olau ar ôl iddi nosi.

Fe ysgrifennodd ei gefnder, Gwenallt, gerdd am y digwyddiad:

"Dy uchelgais di a mi oedd mynd i'r Weinidogaeth;

Dechreuaist ti arno ond bu un tro trist,

Fe ddaliodd plismon di ar dy feic â'r lamp heb olau

Nos Sul, ar ôl rhoi pregeth ar Oleuni Crist."

Yn ôl papur bro Y Llien Gwyn, cafodd DJ goron o dâl am y gwasanaeth yn Nhyddewi, ond bu'n rhaid iddo dalu saith a chwech o ddirwy.

Disgrifiad o’r llun,

Gan nad oedd yn gyrru car, roedd DJ Williams yn dueddol o deithio'r ardal ar ei feic

Ar ôl iddo benderfynu prynu beic newydd, fe roddodd DJ yr hen feic i ddyn o'r enw Lynn Davies o Abergwaun.

Yn dilyn marwolaeth Lynn yn 80 oed yn 2017, fe etifeddwyd y beic gan ei ferch, Elaine.

Mae hi wedi penderfynu caniatáu i'r beic gael ei arddangos yn ffenest Canolfan "Ein Hanes" yn Abergwaun.

Dywedodd Elaine Richards: "Roedd Dad yn gweithio yn garej Hughie Thomas ar y Stryd Fawr, ac roedd yn rhoi help llaw yno.

"Roedd DJ yn gwsmer ac roedd yn dod i roi gwynt yn nheiars y beic.

"Ac fe gynigiodd DJ y beic i Dad. Roedd Dad yn mynd ar gefn ei feic i bobman! Roedd e'n arfer garddio a chlymu strimmer i'r beic.

"Roedd e'n meddwl bod DJ yn dipyn o gymeriad ac roedd yn dwli ar y beic. Roeddwn i'n meddwl y dylse fe gael ei roi rhywle yn Abergwaun fel bod modd i bobl weld y beic."

Ystyried rhaglen deledu

Mae Elaine yn cyfaddef efallai fod hi'n bryd gwneud rhywfaint o waith cynnal a chadw ar y beic Raleigh rhydlyd.

"Fe fues i'n meddwl anfon e at raglen The Repair Shop i weld a fydden nhw am wneud y gwaith!" meddai.

"Dwi wedi symud mwy nac unwaith ac mae'r beic wastad wedi dod gyda ni!"

Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd DJ Williams ei hen feic i Lynn Davies o Abergwaun

Mae'r cof am DJ Williams wedi pylu yn lleol ond un sydd yn ei gofio ydy Peter Davies, sydd erbyn hyn yn 76 oed."Dwi'n cofio DJ yn iawn pan oeddwn i yn ifanc. Wnes i gwrdd ag e pan oeddwn i yn 14 oed," meddai.

"O'n i'n gweithio gyda'r baker yn lleol ar ddydd Sadwrn. Ro'n ni yn mynd lan yr High St a dod lan at dŷ DJ.

"Enw'r tŷ bryd hynny oedd y Bristol Trader, hen dafarn. Dywedodd y baker wrtha i fynd mewn i weld DJ gan y byddai'n siarad Cymraeg 'da fi. Des i'n tamed o ffrind 'da fe wedyn.

"Pob dydd Sadwrn, roedd y baker yn hala fi mewn i gymryd yr arian wrth DJ. Roedd e'n berson hyfryd iawn.

"Rwy'n deall ei fod e'n strict iawn yn yr ysgol ond roedd e wastad yn siarad mor neis i fi, a gwên neis. Dwi'n edmygu fe lot achos fe aeth e drwy lot yn ei fywyd."

Teithio'n bell ar 'feic cyntefig'

Mae Hedydd Hughes yn wirfoddolwraig yng nghanolfan Ein Hanes yn Abergwaun ac yn awyddus i rannu'r hanes gydag ymwelwyr.

"Fe wedodd y Cynghorydd Pat Davies bod cymydog iddi yn berchen ar feic diddorol a phan eglurodd hi bod y ganolfan wastad yn chwilio am rywbeth i roi yn y ffenest, fe fodlonodd y perchennog i roi benthyg e i ni dros dro."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hedydd Hughes yn gwirfoddoli yn y ganolfan a Peter Davies yn cofio DJ Williams

Ychwanegodd fod hyn yn gyfle "i drafod DJ Williams eto".

"Roedd e'n genedlaetholwr, yn heddychwr, yn athro, yn llenor, a dyw'r pwnc ddim yn codi yn ddigon aml, a falle bod ni ddim digon balch ohono."

Mae hi'n rhyfeddu bod DJ wedi medru teithio mor bell ar feic mor gyntefig.

"Roedd e'n mynd lawr i Dyddewi, ar ei feic, i bregethu yn ddim byd iddo. Mae hi'n syndod fel we pobl yn teithio'r wlad bryd hynny ar gefn beic a ddim meddwl dwywaith amdano."

Pynciau cysylltiedig