Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-3 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Go brin fod y gêm ddarbi hon wedi dechrau mor danllyd o'r blaen, gyda'r Elyrch yn mynd ar y blaen mewn tair munud gyda tharan o ergyd gan Joel Piroe a hynny o ongl anodd iawn.
Yn gynnar yn y gêm roedd y llaw uchaf gan Abertawe ond roedd yna ambell ymosodiad mwy effeithiol gan yr Adar Gleision ymhen rhyw hanner awr.
Roedd gwrth-ymosod Abertawe yn beryglus o hyd ac fe lwyddodd Piroe i basio'r bêl yn hyfryd i lwybr Liam Cullen a beniodd y bêl i ganol y gôl.
Fe wnaeth Caerdydd ymateb drwy ymosod yn sydyn ac fe gafodd Jaden Philogene y bêl yng nghanol y blwch cosb a chydag ergyd droed chwith fe lithrodd y bêl drwy ddwylo'r gôl-geidwad, Andy Fisher.
Roedd hi'n ddwy gôl i un. Fe dawelodd hynny gefnogwyr Abertawe a deffro y cefnogwyr cartref.
Roedd yr ail hanner yn dawelach - digon o densiwn ond y chwarae byrlymus yn yr hanner cyntaf wedi ei golli.
Roedd Abertawe yn rheoli'r gêm am gyfnod hir ac yn sicrhau nad oedd modd i Gaerdydd ddod i mewn i'r gêm.
Ond fe lwyddodd Rubin Colwill i gael croesiad cryf i'r postyn pellaf ac fe wnaeth Sory Kaba godi'n uchel gan benio'n nerthol heibio Andy Fisher.
Fe gafwyd saith munud llawn cyffro wedi hynny ac Abertawe yn ymosod yn llawer iawn mwy egnïol.
Fe ddaeth eu cyfle i gipio'r fuddugoliaeth gyda chic rydd ar ymyl y cwrt cosbi.
Tarodd y bêl y wal amddiffynnol, ac yng nghanol ymdrech fawr i glirio'r bêl daeth y bêl i Ben Cabango ac fe'i plannodd yn y rhwyd.
Felly gyda'r gic olaf yn y gêm, fe gipiodd Abertawe fuddugoliaeth arall dros Gaerdydd.