Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 5-1 Oldham

  • Cyhoeddwyd
National LeagueFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yna fuddugoliaeth sylweddol i Wrecsam eto brynhawn Sadwrn ar y Cae Ras.

Roedd y tîm cartref yn gwbl benderfynol ar ddechrau'r gêm gyda dau gyfle i sgorio yn y 10 munud cyntaf.

Fe ddaeth gôl erbyn canol yr hanner cyntaf wrth i ergyd gan Mullins daro'r trawst, ac i'r bêl syrthio i draed Eoghan O'Connell ac yntau yn rhwydo.

Daeth ail gôl yn fuan iawn wedyn - peniad syml gan Paul Mullin ac roedd y fantais wedi dyblu.

Wrth i'r hanner cyntaf ddod i ben roedd yna gryn syndod ar y Cae Ras wrth i Oldham gipio gôl drwy Liam Hogan a hynny yn erbyn llif y chwarae.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Elliot Lee oedd un o'r sgorwyr brynhawn Sadwrn yn erbyn Wrecsam

Ateb Wrecsam oedd rhwydo o fewn pedair munud ar ddechrau'r ail hanner - Elliot Lee oedd y sgoriwr y tro hwn.

Yna fe ddaeth gôl arall i Paul Mullin ar ôl 70 munud wedi croesiad gan Ryan Barnett.

Doedd pedair gôl ddim yn ddigon i Wrecsam ac fe ddaeth trithro (hat-trick) i Mullin gydag ergyd rymus o 25 llath.

Mae Wrecsam wedi dychwelyd i frig y gynghrair unwaith yn rhagor gyda pherfformiad penderfynol unwaith eto.