Cwpan Her Ewrop: Glasgow 73-33 Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ddigon o geisiau i ddiddori'r dorf yn Scotstoun ddydd Sadwrn gyda Johnny Matthews - y chwaraewr cyntaf yn hanes y Glasgow Warriors - yn sgorio pump cais mewn gêm.
Fe sgoriodd Matthews bedwar cais yn yr hanner cyntaf wedi i George Horne sgorio'r cais cyntaf i'r Albanwyr.
Ond roedd yna dri chais i'r Dreigiau hefyd yn yr hanner cyntaf - gan Jordan Williams, Rio Dyer a Jared Rosser a'r sgôr ar hanner amser oedd 33-19.
Ond roedd yna fwy o geisiau i ddod - gan gynnwys dau i Elliott Dee o'r Dreigiau.
Roedd rhyfelwyr Glasgow ar dân ac fe fyddan nhw'n wynebu tîm yr Emirates Lions o Dde Affrica yn rowndiau'r wyth olaf ddydd Sadwrn nesaf.