Cwpan Her Ewrop: Caerdydd 28-27 Sharks
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n gêm hynod o agos yn y Cwpan Her wrth i Rygbi Caerdydd herio Sale Sharks nos Sadwrn.
Fe gipiodd y Cymry y fuddugoliaeth o un pwynt yn unig.
Roedd hi'n gêm hynod o gystadleuol ac fe wnaeth perfformiad arbennig Rhys Priestland sicrhau lle i Gaerdydd yn y chwarteri.
Cafodd y ddau dîm dri chais.
Roedd Caerdydd ar y blaen o 22 i 10 ar hanner amser, ond daeth y Sharks yn ôl yn yr ail hanner.
Fe ddaliodd Caerdydd eu tir ac roedd hynny yn gamp ryfeddol ym mhum munud olaf y gêm.
Roedd dau gais i Josh Adams ar asgell Caerdydd ynghyd ag un i'r prop Corey Domachowski gyda Jarrod Evans yn trosi dau gais ac yntau a Rhys Priestland yn cipio naw pwynt drwy giciau cosb.
Akker Van der Merwe, Tom Roebuck ac Ewan Ashman groesodd y gwyngalch i'r ymwelwyr ac fe wnaeth George Ford drosi'n llwyddiannus a sicrhau dwy gic gosb.
Mae'r fuddugoliaeth yn un sydd yn sicrhau gêm i Gaerdydd yn erbyn Benetton ddydd Gwener nesaf wedi iddyn nhw drechu Connacht o 41 i 19.