Angharad Mair: Beth mae rhedeg yn golygu i fi
- Cyhoeddwyd
"Ni dal yn dueddol o feddwl bod cyrraedd rhyw fath o oedran yn golygu ymddeol, rhoi'r gorau i bethau, arafu lawr - ond mewn gwirionedd mae'n bwysig bod ni fel cymdeithas yn meddwl bach yn wahanol am oedrannau yn enwedig gan bod ni'n byw lot yn hŷn nawr. A bod bod yn 60 ddim mor ofnadwy a mae'n teimlo ar ddiwrnod dy ben-blwydd!"
Dyma eiriau Angharad Mair wedi iddi dorri record amser rhedeg hanner marathon i fenywod dros 60 ym Mhrydain eleni, gan redeg 21.1km mewn 1awr 25 munud a 50 eiliad.
Torrodd y cyflwynydd o Gaerdydd y record yn hanner marathon Casnewydd ym mis Mawrth 2023 am y tro cyntaf ac wedyn mynd ymlaen i dorri ei record ei hun yn Ras Llwybr y Taf yng Nghaerdydd (1awr 25 munud a 26 eiliad) yn yr un mis.
Meddai Angharad am ei champ: "Mae'n deimlad braf achos roedd y record ddim yn un hawdd - awr 26 munud a 10 eiliad.
"Felly y tro cyntaf 'nes i dorri e 'nes i ddim torri fe wrth lot. Mae'n golygu rhedeg pob milltir mewn rhywbeth fel 6 munud 30 eiliad.
"Allai rhywun feddwl fod torri record menywod dros 60 yn rhywbeth hawdd ond dyw e ddim - mae'n rhaid bod rhywun yn gallu rhedeg yn rili glou i neud e ac mae hwnna'n deimlad braf, bod rhywun yn gallu neud e.
"Beth mae'n dangos mwy na dim yw dylen ni ddim fod yn meddwl am oedran fel rhywbeth ble mae rhywun yn gorfod arafu lot, bod rhywun yn peidio gwthio eu hunain, bod rhywun ddim yn gallu bod yn gystadleuol.
"Mae 'na fenywod cystadleuol iawn sy'n gyflym iawn dros 60 a dylen ni ddim meddwl am oedran fel rhywbeth le mae'r corff yn gorfod dirywio.
"Mae'r corff yn cryfhau hefyd (wrth redeg) - er mae'n ffin denau iawn rhwng cryfhau'r corff a gwthio fe i'r eithaf ble mae rhywun yn cael anaf. Dwi'n meddwl bydde pobl sy' ddim yn rhedeg yn synnu o wybod pa mor gyflym mae pobl mewn gwahanol oedrannau yn gallu rhedeg."
Cystadlu
Fel rhedwraig sy' wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Marathon Menywod ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Athens yn 1997, mae rhedeg wedi bod yn rhan o fywyd Angharad ers blynyddoedd: "O'n i'n eitha' da yn neud traws gwlad yn yr ysgol ond wedyn dechreuais i redeg yn 30 oed.
"Bues i'n rhedeg marathon Efrog Newydd gyda rhaglen Heno a gwneud hwnna mewn 3 awr 29 munud - gweld bod fi'n eitha' da ac wedyn 'nes i redeg marathon Berlin blwyddyn yn ddiweddarach mewn 2 awr 59 munud.
"Mae rhai pethau o'n blaid i - yn amlwg yn ffisiolegol, y gallu i redeg pellteroedd hir ond mae popeth sy'n dod wedyn yn dod trwy ymarfer."
Er gwaethaf ei llwyddiant mae Angharad yn cael cyfnodau pan dyw hi ddim yn rhedeg: "Dwi'n mynd trwy gyfnodau o flynyddoedd pan dwi ddim yn rhedeg - 'nes i redeg marathon Llundain yn 2016 a thorri record Ewrop dros 55 - 2awr 54 munud. Ac wedyn 'nes i stopio redeg am bedair mlynedd tan Covid.
"Wedyn haf llynedd 'nes i feddwl dwi ishe bach o sialens. Os nad oes sialens 'da fi 'na'i byth wneud e. 'Na'i drio mynd mewn i marathon Llundain 2023. Mae lle 'da fi nawr ac mae hwnna'n neud i fi ymarfer bach yn galetach, yn rhoi nod ac amcan ac yn rhoi hwb - rhywbeth i anelu ato.
"Pan es i nôl i redeg haf llynedd 'nes i edrych lan beth oedd safle fi ym Mhrydain yn Park Run dros 60 ac o'n i'n 170 ac o'n i'n meddwl bod hwnna'n ofnadwy. Erbyn hyn dwi'n top five."
Cymuned
Er mwyn cael lle awtomatig ym marathon Llundain mae'n rhaid i redwyr allu rhedeg hanner marathon mewn awr a 28 munud. Er mwyn ymarfer am yr hanner marathon mae Angharad wedi bod yn rhedeg gyda chlwb rhedeg er mwyn gwella ei amseroedd.
Mae'r Park Run lleol, sy'n ddigwyddiad 5km am ddim, hefyd wedi bod yn help, fel mae'n dweud: "Dwi'n dwli ar Park Run, mae am ddim ac mae dros Gymru gyfan.
"Mae tua 700 yn rhedeg bob dydd Sadwrn yn Park Run Caerdydd ac mae modd i unrhyw un ddefnyddio Park Run fel maen nhw moyn - o ran cadw'n heini, o ran dechrau rhedeg, neud rhywbeth bach cyflymach na byddech chi'n neud ar ben eich hunain.
"Mae e'n neud i chi deimlo'n well achos hyd yn oed yn y tywydd gwael yn y gaeaf mae bod mas yn yr awyr agored yng nghanol byd natur yn codi'ch ysbryd chi.
"Sdim rhaid bod rhywun yn gallu rhedeg hanner marathon mewn awr 25 munud, beth sy'n bwysig yw bod rhywun yn gallu mynd mas a neud Park Run neu hanner marathon neu 5k a mwynhau bod yn yr awyr agored a chadw'n heini - a ddim yn gweld bywyd fel rhywbeth sy'n gorfod dirywio."
Cyngor Angharad Mair
"Rhedeg yw'r ffordd orau o gadw'n heini achos sdim rhaid chi fynd i unman, sdim rhaid i chi gael kit arbennig, 'na gyd chi angen yw pâr o trainers a chi'n gallu neud iddo ffitio mewn i'ch bywyd chi.
"Os oes unrhyw un yn ystyried dechrau rhedeg, ewch ar raglen fel Couch to 5k sy'n wych. Mae'n dweud wrtho chi beth i neud bob dydd. Y camgymeriad mae rhan fwyaf o bobl yn neud wrth ddechrau rhedeg yw mynd yn rhy gyflym - maen nhw'n mynd mas o bwff ac yn dweud 'sa i'n neud 'na eto.
"Mynd yn araf yw'r gyfrinach bob tro.
"Mae Park Run drwy Gymru ac yn anhygoel - achos mae rhywun yn rhedeg yn erbyn eu hunain ac yn erbyn pobl o'r un oedran. Mae'n gallu rhoi bach o nod i rhywun. Dilyn rhaglen fel Couch to 5k ac wedyn rhoi nod i'ch hun fel ras 10k neu hanner marathon."