Y Bencampwriaeth: Blackpool 1-3 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Caerdydd yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Sicrhaodd Caerdydd Basg hapus i'w dilynwyr gyda buddugoliaeth hanfodol oddi cartref yn erbyn Blackpool.

Mae'r triphwynt yn gadael yr Adar Gleision ddau bwynt uwchben y timau yn safleoedd y cwymp ar waelod y tabl.

Roedd ymosodwr Caerdydd, Connor Wickham, yn y newyddion am ei ymddygiad oddi ar y cae yn ddiweddar, ond yn heulwen Y Groglith fe hawliodd y penawdau am y rhesymau cywir.

Yn dilyn croesiad i'r postyn pellaf gan Mahlon Romeo, peniodd Wickham y bêl i'r rhwyd i roi hwb i'r ymwelwyr ar ôl 21 munud.

Roedd Caerdydd yn llwyr reoli'r hanner cyntaf, a llwyddodd Sory Kaba i ddyblu'r fantais ar ôl 37 munud - y bumed gôl mewn 10 gêm i'r chwaraewr sydd ar fenthyg gyda'r Adar Gleision.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sory Kaba, sydd ar fenthyg gyda Chaerdydd o FC Midtjylland, yn dathlu ei gôl

Dri munud yn ddiweddarach roedd hi'n 3-0 wrth i Joe Ralls rwydo i sicrhau'r pwyntiau i Gaerdydd ar hanner amser.

Dechreuodd Blackpool yr ail hanner yn well a chawsant lygedyn o obaith gyda gôl gan eu hymosodwr Josh Bowler ar 74 munud.

Ond llwyddodd Caerdydd i ddal eu gafael ar eu mantais a'r pwyntiau hollbwysig.