Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-0 Coventry
- Cyhoeddwyd
Er bod Stadiwm Abertawe wedi gweld mwy o goliau (58) na'r un cae pêl-droed arall yn Y Bencampwriaeth y tymor yma, di-sgôr oedd hi yn eu brwydr gyda Coventry City.
Roedd hon yn gêm gyffrous gyda chyfleon da i'r ddau dîm.
Dylai Coventry fod wedi mynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ond methodd Gustavo Hamer gyfle gwych.
Funudau'n ddiweddarach cafodd Abertawe gyfle euraid eu hunain, gyda foli Liam Walsh yn denu arbediad da gan golwr yr ymwelwyr, ond i Harry Darling fethu'r targed gyda'i ymdrech ddilynol.
Ond er mai'r tim cartref gafodd y rhan fwyaf o'r bêl, Coventry gafodd y cyfleon gorau, felly roedd pwynt yr un yn ganlyniad teg yn y diwedd.
Mae'r pwynt yn mynd â Coventry'n nes at y gemau ail-gyfle, ac yn gadael Abertawe yn y 15fed safle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2023