Y Bencampwriaeth: Wigan 0-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Joel Piroe yn dathlu sgorio ei ail gôl i Abertawe yn erbyn Wigan
Joel Piroe oedd seren Abertawe brynhawn Llun wedi iddo fe sgorio ddwywaith oddi cartref yn erbyn Wigan.
Yr Elyrch oedd y ffefrynnau - nhw yn 15fed yn y tabl ar ddechrau'r gêm a Wigan ar y gwaelod.
Fe ddaeth gôl gyntaf Piroe o fewn 14 munud a'r ail 20 munud wedi hynny gyda chymorth Jay Fulton.

Mae Joel Piroe wedi sgorio 41 gôl i Abertawe ers iddo ymuno â'r Elyrch yn haf 2021
Y sgôr terfynol oedd 0-2 gydag Abertawe yn rheoli'r gêm o'r dechrau.