Arestio tri wedi digwyddiad arfog yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
Newry StreetFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Arestio tri wedi'r digwyddiad ar Stryd Newry yng Nghaergybi

Mae tri pherson wedi cael eu harestio wedi adroddiadau bod arf wedi cael ei danio ar stryd yng Nghaergybi.

Credir i'r saethu ddigwydd am 08:30 fore Llun, 10 Ebrill ar Stryd Newry.

Dywed Heddlu'r Gogledd nad oes unrhyw adroddiad bod rhywun wedi'i anafu.

Cafodd un dyn ei arestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd a meddiannu dryll gyda bwriad. Fe gafodd ei ryddhau yn ddiweddarach ar fechnïaeth amodol.

Cafodd dau ddyn arall eu harestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd ac maen nhw wedi eu rhyddhau tra bod yr ymchwilad yn parhau.

Dywedodd y Dirprwy Arolygydd Lisa Jones: "Rydym yn ymwybodol bod fideo o'r digwyddiad wedi cael ei rannu ar draws y cyfryngau cymdeithasol, gan ddenu nifer o sylwadau.

"Mae ein hymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau ac rwy'n gofyn i unrhyw un sydd â llun neu ffilm o'r digwyddiad i gysylltu â ni cyn gynted â phosib."

Pynciau cysylltiedig