Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Glasgow 12-9 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Sione Vailanu yn sgorioFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sione Vailanu yn rhy bwerus i amddiffyn y Scarlets ei atal rhag sgorio cais cyntaf y nsoson

Fe wnaeth y Scarlets roi gêm galed i Glasgow yn y glaw yn Stadiwm Scotstoun cyn colli o 12 pwynt i 9 yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig..

Fe roddodd Dan Jones y tîm o Gymru chwe pwynt ar y blaen gyda dwy gic gosb.

Cau wnaeth y bwlch wedi cais Sione Vailanu gan wneud hi'n 5-6 ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Fe sgoriodd Jones driphwynt pellach gyda chic gosb wedi'r egwyl ond roedd cais yr eilydd Fraser Brown a throsiad Tom Jordan yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Golyga'r canlyniad fod Glasgow wedi sicrhau gêm gartref yn rowndiau'r chwarteri yn y Bencampwriaeth.

Fe fydd y ddau dîm yn cwrdd eto mewn pythefnos yn rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop.

Pynciau cysylltiedig