Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Ulster 40-19 Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Colli'n drwm oedd hanes y Dreigiau yn erbyn Ulster nos Wener gan amlygu pam bod y ddau dîm ar ddau begwn tabl y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Aeth y tîm cartref ar y blaen yn Stadiwm Kingspan wedi tri chais - un gan Dave McCann a dau gan Tom Stewart.
19-7 oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf, diolch i gais a throsiad Angus O'Brien i'r ymwelwyr.
Fe groesodd Elliot Dee a Rhodri Williams y llinell yn yr ail hanner i gau'r bwlch mewn cyfnod pan roedd y tîm cartref ar eu gwanaf.
Ond fe gynyddodd Ulster y pwysau ar yr ymwelwyr, ac fe diriodd Stewart eto i gael ei hat-tric.
Fe wnaeth cais Nick Timoney sicrhau pwynt bonws wrth i Ulster selio'r fuddugoliaeth a chodi i'r ail safle yn y Bencampwriaeth.
Mae'r Dreigiau'n parhau yn y 15fed safle - un o'r gwaelod.