'Sgiliau'n hanfodol i elwa o'r diwydiant ymwelwyr'

  • Cyhoeddwyd
Bar Gwesty Victoria, Porthaethwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwesty'r Victoria ym Mhorthaethwy ar ei newydd wedd yn cyflogi 60 o bobl

Mae'n rhaid i fwy o bobl leol gael y sgiliau angenrheidiol i allu elwa'n llawn o'r diwydiant ymwelwyr, yn ôl arbenigwyr busnes yn y gogledd wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C.

Yn y blynyddoedd ers dechrau'r pandemig Covid-19, mae prinder staff wedi rhoi clec i'r sector lletygarwch.

Er bod y problemau hynny wedi bod yn llai amlwg eleni, yn ôl Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn, mae angen parhau i ddatblygu sgiliau'r gweithlu fel bod pobl y cylch yn gallu ffynnu.

Dyna'r allwedd i ddatgloi'r "gwerth ychwanegol" i'r economi a datblygu cwmnïau ymhellach, ym marn un academydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cydweithio â'r sector i helpu busnesau i ddod o hyd i weithwyr a chael mynediad i hyfforddiant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o gyn weithwyr ffatri 2 Sisters bellach yn gweithio yng Ngwesty'r Victoria, medd Kerry Thomas

Un gyrchfan newydd ar Ynys Môn ydy Gwesty'r Victoria ym Mhorthaethwy, sydd wedi ailagor ar ôl cael ei adnewyddu gan y perchnogion newydd, y cwmni lletygarwch Greene King.

"Mae o'n mynd i dynnu lot o bobl ac arian i'r ynys," meddai Kerry Thomas, yr is-reolwr, sydd wedi gweithio yno ers 20 mlynedd.

Mae'r dafarn bellach yn cyflogi 60 o bobl, ac wedi rhoi swyddi i ambell un o'r 700 a gollodd eu gwaith pan gaeodd ffatri 2 Sisters yn Llangefni ym mis Mawrth.

Ym marn Nia Rhys Jones, cyd-gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn, mae'n lleoliad fydd yn ychwanegu at apêl y dref, sydd eisoes wedi datblygu enw da fel lle i fynd allan am fwyd.

Mae'n credu bod y sector mewn lle gwell o ran argaeledd staff eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae partneriaethau'n "hynod o bwysig i baratoi cyflogwyr am y dyfodol", medd Nia Rhys Jones

"Dydy rhywun ddim yn clywed am yr un creisis ag oedden ni ddwy flynedd yn ôl efo swyddi ddim yn cael eu llenwi," meddai.

"Ond mae'n bwysig bod y sgiliau dal yn cael eu datblygu.

"Mae gynnon ni'r colegau addysg bellach sy'n… cydweithio efo'r sector hamdden a lletygarwch yn yr ardal, a dwi'n credu bod partneriaeth yn hynod o bwysig i baratoi cyflogwyr am y dyfodol, bod y sgiliau perthnasol i'r swyddi mewn lle."

Problemau staffio'n parhau

Yn ôl economegydd sy'n byw'n lleol, mae rhai busnesau yn dal i gael problemau dod o hyd i staff eleni.

Mae Dr Edward Thomas Jones o Ysgol Busnes Bangor yn ystyried y "sector twristiaeth yn bwysig" i Fôn a Chymru, ond mae'n credu bod "rhaid i ni gofio bod ganddon ni sawl diwydiant eraill pwysig hefyd".

"Yr her sydd gan y sector twristiaeth ydy creu'r value added uchel yna," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Edward Thomas Jones bod hi'n anodd i bobl ddatblygu gyrfa o fewn y diwydiant

"Wrth gwrs maen nhw'n cyflogi llawer o bobl, ond yn anffodus, dydy o ddim yn ddiwydiant lle mae pobl ar hyn o bryd yn gallu datblygu gyrfa a chyfrannu at yr economi.

"Y rôl i'r llywodraeth ydy gwneud yn siŵr bod 'na hyfforddiant i bobl, er mwyn iddyn nhw ddatblygu'r sgiliau mae busnesau eu hangen, ac mae hyn yn golygu wedyn… eu bod nhw'n gallu cynnig gwasanaeth newydd i'r cwsmeriaid a helpu datblygu'r cwmnïau."

Lleoliad a thrafnidiaeth yn ffactorau

Mae adroddiad newydd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yn datgelu mai diffyg staff gyda sgiliau addas oedd y rhwystr mwyaf i 30% o fusnesau bach gwledig ym mhob sector ar draws y DU yn 2022.

Dywedodd traean y busnesau hynny fod eu lleoliad ac opsiynau trafnidiaeth gwael yn gwneud denu staff yn anodd.

I gaffi'r Green Olive yng nghanol Porthaethwy, llenwi'r rota pob awr o'r wythnos ydy'r broblem.

"Mae pobl yn mynd a dod, a jyst gweithio ar y penwythnos," meddai Elin Thompson, sy'n gweithio yno.

"Felly mae'n fwy anodd i gael pobl trwy'r wythnos."

Disgrifiad o’r llun,

Mae llenwi'r rota yn broblem medd Elin Thompson o gaffi Green Olive, Porthaethwy

Un argymhelliad sydd gan yr FSB ydy ehangu'r Cynllun Symudedd Ieuenctid, sy'n rhoi cyfle i oedolion dan 30 ddod i weithio i'r DU am gyfnod o ddwy flynedd. Mae 10 gwlad yn gymwys ar hyn o bryd - ond nid aelodau'r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Llywodraeth y DU, maen nhw'n "agored i drafod trefniadau… gyda gwledydd a thiriogaethau eraill" ond maen nhw hefyd "eisiau gweld cyflogwyr yn buddsoddi yn y tymor hir yng ngweithlu domestig y DU yn hytrach na dibynnu ar lafur rhad o dramor."

Ymgynghoriad cyngor

Ym marn y Cynghorydd Neville Evans, deilydd portffolio hamdden ar Gyngor Ynys Môn, mae'n bosib bod lle i fwy o weithwyr tramor yn y dyfodol.

"Mae pobl yn cael problemau cael staff, ac mae hyfforddiant yn rhan o'r ateb i hynny i bobl leol," meddai.

"Ond wrth gwrs 'dan ni wedi colli nifer o bobl yn dilyn y refferendwm sydd wedi, o bosib, mynd yn ôl i Ewrop, ac mi fasa cael rhai o'r rheiny yn ôl yn help yn y tymor byr, ond be' 'dan ni isio'i weld ydy cyflogaeth i bobl leol yn y diwydiant twristiaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd ymgynghoriad yn edrych ar geisio "ymestyn y tymor twristiaeth", yn ôl y Cynghorydd Neville Evans

Mae o'n dweud bydd y cyngor yn ymgynghori cyn hir ar Gynllun Rheoli Cyrchfan newydd, sy'n ceisio creu cydbwysedd rhwng anghenion pobl leol ac ymwelwyr.

"Mae hwn yn edrych ar ymestyn y tymor twristiaeth ar hyd y flwyddyn, a gobeithio rhoi mwy o gyfleon i bobl leol o ran cael swyddi a gwaith [sydd] nid yn unig yn dymhorol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "gweithio'n galed gyda'r diwydiant i helpu busnesau i gyflogi a chadw staff, i gael cyllid i hyfforddi ac i sicrhau mwy o swyddi parhaol o safon, sydd yno ar hyd y flwyddyn."

Ychwanegodd bod heriau staffio busnesau yn "ganlyniad uniongyrchol y math o Brexit a ddewisodd Llywodraeth y DU" a bod "y system mewnfudo… ddim yn gweithio i Gymru, ac yn niweidio ein economi."

Pynciau cysylltiedig