Môn: Diwedd y daith i deulu 2 Sisters wrth i'r ffatri gau
- Cyhoeddwyd
Mae ffatri brosesu dofednod ym Môn yn cau ei giatiau am y tro olaf ddydd Gwener, gyda dros 700 o swyddi'n cael eu colli.
Mae'r ffatri yn Llangefni wedi bod ar agor ers dros hanner canrif, ond cyhoeddodd cwmni 2 Sisters fis Ionawr eu bwriad i gau y safle.
Er i dasglu gael ei sefydlu er mwyn ceisio ei hachub, daeth cadarnhad yn ddiweddarach y byddai'r ffatri yn cau ddiwedd Mawrth.
Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, fod cau'r ffatri yn "newyddion trychinebus i'r gweithlu a'u teuluoedd".
Dywedodd llefarydd ar ran y ffatri yn Llangefni bod traean o'r staff wedi dod o hyd i waith - 113 yn y gogledd a 54 mewn canghennau eraill o'r cwmni ar draws y DU. Ychwanegodd bod disgwyl i'r nifer godi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Stori gyfarwydd
Ers Ionawr mae tref Llangefni wedi bod mewn limbo, ar ôl i gwmni 2 Sisters gyhoeddi fod y gwaith prosesu cywion ieir yn y dref yn dod i ben am nad oedd y ffatri bellach yn "gynaliadwy".
Mae'r ffatri wedi bod dan law sawl cwmni ers dros hanner canrif, ac yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl y cyhoeddiad mi glywon ni am gryfder cymunedol pobl Môn wrth wynebu stormydd tebyg yn y gorffennol.
Mae ffatrioedd yn cau yn stori gyfarwydd yma gyda hen safleoedd gwaith ymhob cornel o'r ynys - Wylfa, Aliminiwm Môn, Peboc ac ati.
Mae trigolion Môn wedi byw'r un stori ers degawdau, ond gyda chymaint yn colli eu gwaith mewn cyfnod economaidd mor fregus mae yna boeni garw am y bennod nesaf.
Ar ôl naw mlynedd yn rheoli tîm o ddeugain yn y ffatri, tydi Roger Edwards ddim yn siwr be' ddaw nesaf.
"Dwi'n ddigalon iawn" meddai.
"Dwi am jest gymryd 'chydig bach o amser allan cyn chwilio am waith newydd."
"Does na'm byd ar yr ynys 'ma hebaw bo chi mynd i drafeilio i ffwrdd ynde.
"Sgeni'm byd i nghadw i yma rîli, mi fedra i fynd i ffwrdd os oes rhaid i fi. Ond tydw i ddim isio mynd i ffwrdd."
'Cyflogi lot o bobl'
Mae Des Edwards, 57 o Walchmai, wedi bod yn gweithio yn y ffatri ers deng mlynedd.
Dywedodd ei fod wedi ceisio am swyddi newydd ond heb lwyddiant hyd yma.
"Mae'n bechod mawr bod y lle yn cau - does 'na ddim llawer o'm byd ar yr ynys [o ran gwaith]," meddai.
"Fydd y grandchildren yn tyfu fyny yma, a dwi'n meddwl am rheiny - 'sa ddiawl o'm byd ar yr ynys iddyn nhw.
"Oedd fan'ma [2 Sisters] yn cyflogi lot o bobl ar yr ynys 'ma.
"Dwi'n 'nabod lot oedd wedi mynd yno yn syth o'r ysgol, a ddim yn deall dim byd ond gweithio yn y ffatri.
"Ma'r rheiny yn eu 60au rwan. Pwy sy'n mynd i gymryd rhywun sy'n eu 60au? Hogia ifanc mae pawb isio."
Dywedodd ei fod wedi ceisio am swyddi ond heb unrhyw lwyddiant hyd yma.
'Mae'n chwalu'r teimlad o berthyn'
Ac yntau yn ei bumdegau canol, roedd Vince Williams wedi gobeithio y byddai'r swydd yn 2 Sisters yn ei gynnal tan iddo ymddeol.
Yn dad ac yn daid, tydi o ddim wedi gallu dod o hyd i waith arall.
"Dwi wedi trio am lot o waith, ond mae bob dim yn bell," meddai.
"Swn i wedi gallu cael gwaith yn Wrecsam neu Mold. Ond pan dwi'n 55 dwi'm isio dechra trafeilio i fyny a lawr yr A55 am bedair awr y diwrnod."
Mae cau ffatri yn golygu llawer mwy na cholli cyflog yn ôl Vince, mae'n chwalu'r teimlad o berthyn.
"Mae hogia sydd ar shiffts fi, 'da ni fatha teulu. Achos da ni hefo'n gilydd deuddeg awr o'r dydd. Mae o'n amser hir. Dwi'n siarad mwy efo'r hogia na beth ydw i efo'r wraig! Ma hynna'n cael ei destroyio hefyd."
"Mae lot o hogia wedi bod yn eu gwaith yna a ddim yn gwybod dim byd lot mwy na chyw iâr, felly mi fydd hi'n anodd iddyn nhw ffeindio gwaith heb fod ganddyn nhw grefft.
"Felly da chi'n teimlo bechod mawr drostyn nhw hefyd"
'Mae 'na gyfleoedd'
Mae Coleg Menai, sy'n arbenigo mewn hyfforddiant galwedigaethol, yn rhan o'r tasglu a' sefydlwyd i helpu'r gweithwyr.
"Mae ein calonnau'n mynd allan i'r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan gau'r ffatri," meddai pennaeth y coleg, Aled Jones-Griffith.
"Fodd bynnag, yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw ein bod ni'n gweithio'n agos gyda 2 Sisters, gyda'r tasglu sydd wedi'i greu i helpu'r staff hynny sydd wedi colli eu swyddi.
"Fe fyddwn ni'n gweithio gyda nhw i weld a allwn ni adnabod cyfleoedd newydd iddyn nhw, neu a allwn ni adnabod cyfleoedd ail-sgilio iddyn nhw."
Mae'n parhau yn argyhoeddedig bod yna gyfleoedd ar Ynys Môn.
"Er ein bod yn cydymdeimlo'n llwyr â'r teuluoedd hynny - a fyddwn i ddim eisiau bod yn eu sefyllfa nhw - mae 'na gyfleoedd."
'Bechod dros y rheiny efo teuluoedd'
Jean Owen o Aberffraw ac Olive Jones o Langefni sy'n gyfrifol am nosweithiau bingo yng nghlwb Wellmans y dref.
Mae'r ddwy ffrind yn 'nabod staff y ffatri, ac yn dweud bod criw yn dod i'r clwb i gymdeithasu ar ôl ambell shift.
Mae chwaer Olive Jones yn un o'r rhai sy'n colli swydd.
"Gen i bechod dros rheiny sydd efo teuluoedd, 'rheina sy' isio talu mortgage a hyn a llall," meddai.
"Mae'n drist ofnadwy ar bawb yna."
Atgofion braf o weithio yn y ffatri sydd gan Jean Owen.
"Mi esh i'n syth o'r ysgol i weithio yna," meddai.
"Dwi wedi 'neud llawer iawn o ffrindiau yna, a 'da ni'n dal yn ffrindiau ar ôl yr holl flynyddoedd."
"Mae gen i bechod dros y gweithiwrs, maen nhw'n dod i weithio yna o bob gornel o Sir Fôn."
Teimlo effaith y cau
Mi ddechreuodd Pat Graham weithio yn y ffatri pan agorwyd y lle yn 1971 gan gwmni J.P Wood o Sir Amwythig.
Mae hi'n cofio dyddiau cynnar y ffatri gyda gwên.
"Roedden ni'n cael lot fawr iawn o hwyl a sbri efo ffrindiau yno."
A hitha bellach wedi ymddeol o'r ffatri ers pum mlynedd, doedd clywed fod y lle yn cau ddim yn sioc lwyr iddi.
"Dwi'm yn meddwl fod otsh genno nhw," meddai wrth ddisgrifio y perchnogion presennol.
"Yr unig beth oedden nhw'n poeni am oedd yr iâr yn mynd i mewn a'r iâr wedyn yn dod allan ochr arall y ffatri. Doedd dim ots gan'yn nhw am y bobol."
Mae cau ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn mynd i gael effaith nid yn unig ar weithwyr y ffatri a'u teuluoedd - mi fydd ffermwyr, busnesau bach, ysgolion a mwy yn teimlo effaith y cau, gan fod prosesu cywion ieir wedi'i wreiddio'n ddwfn yn yr economi leol.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wedi cynnal 1,500 o sesiynau cefnogi i helpu gweithwyr - i'r 400 o staff a ddymunodd fynychu, a bod y cymorth yn amrywio o ysgrifennu CV a llythyron, i gynnal cyfweliadau a gwneud gwaith digidol.
Dywedodd hefyd y bydd y cwmni yn parhau i gynnig cefnogaeth ychwanegol am fis arall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023