Y Bencampwriaeth: Sheffield United 4-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Sory KabaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sory Kaba sgoriodd unig gôl yr Adar Gleision o'r smotyn

Mae Caerdydd wedi cael ergyd i'w gobeithion o aros yn y Bencampwriaeth ar ôl cael eu trechu gan Sheffield United ddydd Sadwrn.

Gyda'r tîm cartref yn brwydro am ddyrchafiad, roedd hi wastad am fod yn dalcen caled i'r Adar Gleision yn Bramall Lane.

Cafodd Caerdydd ddechreuad da, yn mynd ar y blaen wedi 19 munud gyda Sory Kaba yn sgorio o'r smotyn yn dilyn trosedd ar Jack Simpson yn y cwrt cosbi.

Ond roedd Sheffield United yn gyfartal o fewn pum munud gyda gôl gan James McAtee.

Yn yr ail hanner aeth Sheffield United ar y blaen gyda pheniad gan Jack Robinson, cyn i'r fuddugoliaeth gael ei sicrhau i'r tîm cartref gan Iliman Ndiaye a Ciaran Clark.

Mae'r canlyniad yn golygu fod yr Adar Gleision yn aros yn yr 21ain safle - un pwynt yn unig uwchben safleoedd y cwymp - cyn gweddill gemau dydd Sadwrn.