Perfformio cân Gymraeg yn seremoni goroni'r Brenin Charles

  • Cyhoeddwyd
Syr Bryn TerfelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Syr Bryn Terfel fydd yn canu cyfansoddiad Paul Mealor, Coronation Kyrie

Bydd cân Gymraeg yn cael ei pherfformio yn seremoni goroni'r Brenin Charles fis nesaf - y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn ôl Palas Buckingham.

Syr Bryn Terfel fydd yn canu cyfansoddiad Paul Mealor o Sir Ddinbych, a hynny gyda Chôr Abaty Westminster.

Disgrifiodd Mr Mealor y gân, o'r enw Coronation Kyrie, fel "cri o enaid dwfn bryniau a chymoedd Cymru am obaith, heddwch, cariad a chyfeillgarwch".

Bydd y coroni yn digwydd ar 6 Mai.

Ymysg y cerddorion eraill fydd yn perfformio mae'r delynores frenhinol, Alis Huws, fydd yn chwarae trefniant newydd o gân Sir Karl Jenkins, Tros Y Garreg, gyda cherddorfa'r coroni - cân a gomisiynwyd gan Charles dros 20 mlynedd yn ôl pan oedd yn Dywysog Cymru.

Mae cerddorfa'r coroni yn cynnwys rhai o'r cerddorion gorau yn y DU, gan gynnwys aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Pynciau cysylltiedig