O rannu swyddfa gyda Zelensky i fywyd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Roedd Larysa Martseva yn un o brif gynhyrchwyr teledu Wcráin, ond un diwrnod fe ddeffrodd a thu allan i ffenestr ei hystafell fyw gwelodd bod tanc Rwsiaidd yn anelu amdani.
Wedi bron i dair wythnos o fyw dan ymosodiadau'r Rwsiaid ar gyrion dinas Bucha, fe benderfynodd Larysa, ei mab a'i merch, ffoi i Gymru.
Ar hyn o bryd mae Larysa a'i phlant yn byw yng Nghaerdydd. Flwyddyn gron ers cyrraedd Cymru, mae hi'n edrych nôl ar flwyddyn anoddaf ei bywyd.
Rhannu swyddfa gyda Zelensky
Rwy'n gynhyrchydd teledu ac yn sgriptiwr sgrin. Cyn y rhyfel, roeddwn yn gwethio i sianel fwyaf Wcráin, 1 + 1 TV. Un o fy nghydweithwyr cyn iddo ddod yn arlywydd oedd Volodymyr Zelensky. Cyn hynny roeddwn yn gweithio fel ysgrifennwr i gylchgrawn Cosmopolitan.
Mae gen i ddau o blant, ysgarais eu tad yn syth ar ôl geni fy mab ieuengaf. Mae fy merch yn 19 a mae hi'n fyfyrwraig. Mae'r mab yn 15; slacyr, diog ond mae'n athrylith gyda chyfrifiaduron.
A dweud y gwir, magwyd fy mhlant ar setiau ffilm, ac ymddangos mewn sawl un.
Roeddwn i'n gallu cyfuno bod yn fam a fy ngwaith.
Rwsia yn meddiannu Bucha, dinas ein cartref
Mae fy nheulu o Bucha. Dinas sydd 30 cilomedr oddi wrth Kyiv. Roedd fy nghartref mewn pentref o'r enw Rubijovka ar gyrion y ddinas. Cafodd ei feddiannu ar ddiwrnod cyntaf y goresgyniad, Chwefror 24 2022, a'i ryddhau ar Ebrill 1 2022.
Fel y rhan fwyaf o bobl o fy nghwmpas i, doeddwn i na neb yn eisiau credu y byddai gwlad yn ymosod ar wlad arall a'i dinistrio'n llwyr yn yr unfed ganrif ar hugain.
O Chwefror 24 i Fawrth 12 2022, eisteddom yn seler ein cartref ger Bucha gyda thanciau Rwsiaidd yn gyrru heibio tu allan. Roedd saethwyr Rwsiaidd yn eistedd o gwmpas ac yn saethu tuag at y dynion oedd wedi mentro i'r stryd.
Dyw 18 diwrnod ddim yn swnio yn llawer wrth feddwl am fywyd bob dydd. Ond i ni, roedd bron i dair wythnos o hyn yn teimlo fel tragwyddoldeb.
Roedd fy mab, fel pob plentyn o'i oed, yn chwarae ar y cyfrifadur o hyd.
Ac roedd ei ymennydd, fel dull o'i warchod, yn gweld popeth oedd yn digwydd fel gêm. Nes iddo weld bomiwr Rwsiaidd yn hedfan dros ein tŷ a dinistrio stâd tebyg i ni ychydig gilomedrau i ffwrdd.
'Gwyrth ein bod ni wedi dianc rhag artaith a marwolaeth'
Wnaeth fy merch ddioddef yn sgil y meddiannu a roedd y digwyddiadau wnaeth ddilyn yn anodd. Mae hi'n dal ag ofn tân gwyllt ac mae hi'n crio yn aml.
Cawsom ein hachub gan y ffaith bod y gwir am yr erchyllterau a gyflawnwyd gan filwyr Rwsiaidd yn Bucha wedi'i ddatgelu pan oeddem eisoes yng Nghymru.
Dim ond wedyn y sylweddolon ni ei bod hi'n wyrth ein bod ni wedi dianc rhag artaith a marwolaeth.
'Nid ofn yw'r teimlad'
Nid wyf erioed wedi profi unrhyw beth fel hyn a dydw i ddim yn siŵr y gallwch chi gyfleu i bobl eraill sut brofiad yw hi pan fyddwch chi'n gyrru mewn car a gynnau-peiriant yn cael eu pwyntio atoch chi.
Rydych chi mewn peryg o gael eich saethu yn eich pen o fewn eiliad. Dim ond am hwyl. Ac oherwydd eu bod yn gallu. Neu ladd eich plant.
Ddoe yn unig roeddech chi mewn heddwch, yn dawel ac yn ddiogel ac yn awr mae eich bywyd yn perthyn i hwyliau drwg y milwr Rwsiaidd meddw.
Nid ofn yw'r teimlad. Mae'n teimlo fel bod eich perfedd wedi'i lapio o amgylch sgriw enfawr a does dim byd y gallwch chi ei wneud.
Ffoi o Wcráin i Gymru
Symudon ni o Bucha i orllewin Wcráin. Yn gyntaf, i westy sgïo segur yn y mynyddoedd. Yna i Lviv. Fe wnaethon ni feddwl am aros yn Lviv, tan un bore, gwelais dri o daflegrau Rwsiaidd ar yr un lefel â'n ffenestri (roeddem yn byw ar lawr uchel adeilad aml-lawr).
Ychydig funudau yn ddiweddarach roedd yna ffrwydradau. Dinistriwyd garej a hostel lle roedd ffoaduriaid o Kharkov yn byw. Bu farw pobl.
Ar yr un diwrnod, rhoddais y plant a'r cŵn yn y car a fe yrrom i Gymru oherwydd i ni dderbyn gwahoddiad gan deulu o Creigiau.
Gwnaeth y teulu yr oeddem yn byw gyda nhw yn Creigiau bopeth posib i'n helpu ni i addasu i'n amodau a'n cartref newydd.
Buom yn byw gyda nhw am naw mis a bydd eu henwau'n bwysig i'n teulu ni am byth. Nhw bellach yw'r bobl agosaf atom ni.
Bywyd yng Nghaerdydd
Mae Caerdydd yn ddinas gwyddoniaeth a chelf. Felly, roeddem yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yma'n hawdd.
Addasodd fy merch a minnau'n gyflym. Mae fy mab yn ei chael hi'n anodd i dderbyn bywyd newydd. Mae'n dioddef o PTSD, nid yw prin yn cysgu, ac nid yw'n gadael y tŷ oni bai am orfod mynd i'r ysgol.
Daeth caredigrwydd, haelioni a didwylledd y Cymry yn ddarganfyddiad i ni. Mae Wcraniaid yn bobl unigolyddol iawn. Pob dyn iddo ei hun. Felly bob tro y caf gadarnhad o garedigrwydd diamod y Cymry, dwi'n crio.
Hiraeth am Wcráin
Rwy'n gweld eisiau fy ffrindiau a arhosodd yn Wcráin. Mae fy nghalon yn suddo pan fydda i'n meddwl bod meibion fy ffrindiau, y bechgyn y gwnes i eu cario'n fy mreichiau ugain mlynedd yn ôl yn blant, a'u danfon i weld cartŵns a chael hufen iâ, bellach yn filwyr ar y rheng flaen.
A gallant gael eu lladd unrhyw eiliad. Ac mae arna i ofn fel eu mamau.
'Ffeindio fy angerdd at bethau eto'
Ond pan na fyddaf yn hel meddyliau am yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin, rwyf wedi llwyddo i ffeindio fy angerdd at bethau eto, a fy ngalwedigaeth.
Ers fy niwrnod cyntaf yng Nghymru rwyf wedi bod yn chwilio am gyfle i wneud yr hyn rwy'n arbenigo ynddo, cynhyrchu ac ysgrifennu.
Rwy'n ffodus iawn o fy asiant yng Nghymru. Cymerodd fi o dan ei hadain o'r diwrnod cyntaf un. Helpodd hi fi i brynu gliniadur a threfnodd gyfarfodydd gyda phobl o'r diwydiant i mi. Esboniodd sut mae pethau'n gweithio yma ym maes gwneud ffilmiau.
Mae gen i sawl peth ar y gweill, gan gynnwys comedi sefyllfa o'r enw My Ukrainians. Stori ddoniol am deuluoedd Cymreig sydd wedi rhoi lloches i Wcraniaid a'r gwahaniaethau diwylliannol rhyngddynt.
Hefyd, ffilm ddogfen am yr hwb cymunedol sy'n cefnogi ac yn cynnig cymorth i Wcraniaid yng Nghaerdydd. Rwy'n dal i allu gwneud yr hyn rwy'n arbenigo ynddo, diolch byth.
Rwyf wedi dechrau astudio'r cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a'r Wcráin (dwi'n hanesydd trwy fy addysg uwch) a rwyf eisoes wedi gwneud llawer o ddarganfyddiadau anhygoel.
Ym mis Medi, cynhaliodd criw bychan ohonom ŵyl yn dathlu diwylliant Wcràin yng Nghaerdydd. Fyddwn i byth yn ymgymryd â phrosiect mor enfawr a chymhleth erbyn hyn. Ond flwyddyn yn ôl, roeddwn i'n dal i fod yn rhamantus iawn, ac felly fe drodd allan yn lwyddiant.
Fy angerdd tu allan i'r gwaith yw fy nghŵn; Rhodesian Ridgebacks, Trisha a Vinci. Fe ddes i â nhw o Wcráin i Gymru gyda fi. Ond fel trodd pethau, doedd ein amodau byw yma ddim o fudd iddyn nhw. Maen nhw angen gallu rhedeg, tua 15 cilomedr bob dydd. Ac roedd rhaid i mi wneud penderfyniad anodd.
Erbyn hyn mae fy nghŵn yn byw gyda theulu maeth yng ngogledd Lloegr. Mae ganddynt 25 acer o dir felly ac felly mae digonedd o dir i'r cŵn redeg fel y mynnont.
Y dyfodol
Nid oes unrhyw un o'm cylch agos wedi dychwelyd i Wcráin i fyw eto, oni bai am deithiau byr. Mae'r rhain yn fenywod a phlant.
Mae pob gobaith am fywyd normal gartref wedi diflannu ers yr ymosodiad roced cyntaf.
Fe es i gartref ym mis Chwefror eleni. Bu ymosodiad taflegryn tra roeddwn yno a sylweddolais ei bod yn dal yn gynnar iawn, iawn i ddychwelyd i Wcráin. Yn enwedig i fynd â phlant yno.
A dweud y gwir mae gen i ofn ymosodiad niwclear ar Kyiv. Rwy'n gwybod ei fod yn swnio'n afrealistig iawn. Beth yw ymosodiad niwclear yn yr unfed ganrif ar hugain?
Ond dyna'n union beth roeddwn i'n ei feddwl y diwrnod cyn y goresgyniad - na fyddem byth yn gweld rhyfel.
Hefyd o ddiddordeb: