Dyn o Gaerdydd wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
pil
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y lôn orllewinol ei chau yn gyntaf cyn i'r heddlu benderfynu cau'r lôn ddwyreiniol hefyd

Bu farw dyn 44 oed o Gaerdydd mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 brynhawn Llun.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw am 14:30 ar ôl i fan Mercedes Sprinter daro yn erbyn y rhwystrau sy'n gwahanu'r lonydd gorllewinol a dwyreiniol.

Roedd rhan o'r ffordd rhwng cyffyrdd 36 a 37 yn ardal y Pîl ynghau i'r gorllewin yn gyntaf, yna i'r ddau gyfeiriad, gan achosi oedi hir.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y draffordd wedi ailagor tua 22:30.

Mae teulu'r dyn fu farw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, ychwanegodd y llu.

Maen nhw'n apelio am unrhyw wybodaeth gan yrwyr a welodd y gwrthdrawiad yn digwydd.

Pynciau cysylltiedig