Y gofodwr o Gaerdydd aeth erioed i’r gofod
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi fod Cymro yn ofodwr i NASA yn yr 1960au? Dyma hanes anhygoel Dr J Anthony Llewellyn, yr 'anturiaethwr i'r eithaf' o Gaerdydd.
Ganwyd John Anthony Llewellyn ar 22 Ebrill 1932, a'i fagu yn ardal Adamsdown y brifddinas. Mynychodd Ysgol Uwchradd Caerdydd, cyn astudio Cemeg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, gan dderbyn doethuriaeth oddi yno yn 1958.
Yn dilyn cyfnod yn gweithio yn Ottawa, erbyn 1966, roedd yn byw yn Florida gyda'i deulu ifanc - ei wraig, Valerie, o Ffynnon Taf, a'u plant, Gareth, Ceri a Siân - ac roedd yn gweithio fel Darlithydd Cysylltiol yn Ysgol Gwyddoniaeth Peirianneg ac Adran Gemeg Prifysgol Florida State.
Yn ôl yr hanes, aros i gyfarfod staff ddechrau oedd o pan sylwodd ar ddarn o bapur ar yr hysbysfwrdd; hysbyseb gan NASA a oedd yn chwilio am ofodwyr-wyddonwyr. Roedd rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn iau na 35 oed, yn chwe troedfedd neu fyrrach ac ym meddu ar ddoethuriaeth yn y gwyddorau.
Aeth Anthony ati i ymgeisio yn syth.
Roedd NASA o'r farn eu bod angen mwy o wyddonwyr yn eu plith, o ganlyniad i'w cynlluniau arloesol helaeth i deithio'r gofod. Meddai Gene Shoemaker, aelod o'r panel dethol:
"A vast scientific frontier will be thus opened to exploration by competent scientists. The observations will provide the world with new facts and hypotheses in the study of the solar system and life."
Gofodwyr Grŵp 6
Daeth 923 cais i law, ac yn dilyn proses gyfweld anodd a phrofion corfforol a meddyliol dwys, cafodd Anthony wybod ym mis Awst 1967 ei fod yn un o'r 11 a fu'n llwyddiannus, a dechreuodd ar ei hyfforddiant yn y Johnson Space Centre yn Houston, Texas.
Fo oedd un o'r ddau ofodwr cyntaf yn NASA oedd heb eu geni yn yr UDA; y llall oedd un o'i gyd-ofodwyr yn y grŵp, Dr Philip Chapman o Awstralia.
Y dynion yma oedd y chweched grŵp o ofodwyr roedd NASA wedi eu penodi, NASA Astronaut Training Group 6, neu'r 'The Excess Eleven' fel y daethant i gael eu galw, am nad oedd taith benodol i'r gofod wedi eu trefnu ar eu cyfer.
Yn wir, dyma oedd y grŵp diwethaf o ofodwyr i gael eu recriwtio gan NASA am ddegawd, gan fod y gyllideb wedi ei thorri'n sylweddol erbyn i'r 11 gael eu dethol.
Gwyddonwyr y gofod
Fel Anthony, gwyddonwyr oedd y gofodwyr newydd yma i gyd, wedi eu dewis am eu doniau gwyddonol, ac roedd arbenigedd Anthony mewn Cemeg wedi ei wneud yn ymgeisydd delfrydol.
Yn ei eiriau ei hun, uchelgais Anthony pan gafodd y swydd oedd i gael "hediad lwyddiannus, i gynnal arbrofion da ac i wneud 'chydig o wyddoniaeth o'r radd flaenaf".
Roedd y ffaith eu bod yn wyddonwyr yn golygu eu bod yn wahanol i ofodwyr arferol, a oedd yn beilotiaid profiadol fel rheol, felly roedd yn rhaid i Anthony a gweddill grŵp 6 felly dderbyn 13 mis o hyfforddiant peilota jet gan yr US Air Force fel rhan o'u paratoad i fod yn ofodwyr.
Fodd bynnag, ychydig fisoedd i mewn i'r cwrs, sylweddolodd Anthony nad dyma'r bywyd iddo fo; doedd hedfan awyrennau cyflym ddim yn dod yn hawdd iddo, a phenderfynodd adael NASA ym mis Awst 1968, lai na blwyddyn cyn i ddyn gerdded ar y lleuad ym mis Gorffennaf 1969.
Ond er nad oedd anterth y bydysawd o fewn ei gyrraedd, nid dyma oedd diwedd gwaith gwyddonol Anthony ym mhellafoedd y byd, a throdd ei olygon tuag i lawr...
Roedd deifio SCUBA wastad wedi bod o ddiddordeb iddo. Roedd wedi cael ei ddysgu i ddeifio gan yr aquanaut Jacques Cousteau, ac yn yr 1960au, roedd Anthony yn gyfarwyddwr hyfforddi ar y cwrs hyfforddi deifwyr ym Mhrifysgol Florida State, un o'r cyrsiau cymhwyso deifio SCUBA cyntaf yn yr Unol Daleithiau.
Felly ar ôl rhoi'r gorau i geisio hedfan i'r entrychion, penderfynodd blymio i'r dyfnderoedd.
Gweithio ar wely'r môr
Yn 1971, ochr-yn-ochr â'i swydd fel Athro'r adran Peirianneg Cemegol ym Mhrifysgol De Florida, dechreuodd weithio gyda'r National Oceanic and Atmospheric Administration (NOAA). Treuliodd ran helaeth o'r bum mlynedd nesaf yn byw a gweithio mewn cromen fawr felen ar wely'r môr fel rhan o'r rhaglen Manned Undersea Science and Technology.
Dyma oedd yr HYDROLAB, cynefin ymchwil tanddwr gyntaf y NOAA, a oedd wedi ei angori filltir oddi ar arfordir ynys y Great Bahama ger Florida.
Gwnaeth yr HYDROLAB y gwaith o astudio o dan y môr yn haws; byddai deifwyr yn gorfod dod i'r wyneb yn rheolaidd, ond gyda'r HYDROLAB, roedd gwyddonwyr yn medru treulio mwy o amser o dan y môr wrth eu gwaith.
O fewn yr HYDROLAB, roedd popeth oedd ei angen i'r gwyddonwyr fyw a gweithio yno am hyd at bythefnos ar y tro; labordy, gwelyâu, trydan, dŵr a gwres. Roedd digon o le i bedwar oedolyn, ond gan fod yna ddim ond tri gwely, roedd rhaid cadw at amserlen cysgu.
Rhwystrau
Roedd Anthony yn gweithio ar ystod o arbrofion yn ystod ei gyfnod ar wely'r môr, ond doedd cynnal yr arbrofion yma ddim yn hawdd iawn, yn arbennig gan fod yna bosibilrwydd dod ar draws un o siarcod teigr yr ardal.
Ar ddiwedd cyfnod yn yr HYDROLAB, â phawb yn barod i ymestyn eu coesau ac anadlu awyr iach, doedd dim modd mynd adref yn syth, am fod rhaid treulio 16 awr mewn siambr dadgywasgu er mwyn sicrhau nad oedden nhw'n dioddef o'r bends.
Fodd bynnag, roedd Anthony yn ei elfen a bu'n gyfnod gwerthfawr iddo o ran ei waith a'i astudiaethau gwyddonol.
Pan fu farw ar 2 Gorffennaf 2013, roedd yn Athro Emeritws mewn Peirianneg Cemegol a Biogemegol ym Mhrifysgol De Florida, ac yn astudio technegau darparu cyffuriau a genynnau.
Ysbryd anturiaethwr
Doedd hi ddim yn syndod o gwbl i'w deulu fod Anthony - Tony iddyn nhw - wedi byw bywyd mor gyffrous. Yn ôl ei frawd, David, mewn sgwrs â BBC Cymru Fyw, roedd gan Anthony ysbryd anturiaethwr ers iddo fod yn ifanc:
"Roedd e bedair blynedd yn hŷn na fi. Roedden ni'n byw ar Moira Street yn Adamsdown gyda nifer o deuluoedd eraill yn ystod y rhyfel, ac roedd Tony, fel un o'r plant hynaf, ychydig yn wahanol oherwydd ei fod mor anturus. Roedd e bob amser yn dod lan â syniadau gwirion - ac o'n i'n ei helpu weithiau - fel gwneud parasiwt mas o sachau tenau a neidio mas o ffenest y llofft!
"Pan oedd e'n ei arddegau wedyn, dechreuodd ei ddiddordeb mewn beiciau modur, a'r holl hwyl sy'n dod 'da hynny. Ond roedd e bob amser yn astudio'n galed iawn, a dyna sut cafodd e PhD erbyn ei fod yn 22."
Hyd yn oed yn hwyrach yn ei fywyd, doedd ei ysfa am antur na'i gariad tuag at y môr ddim wedi pylu; yn 1992 hwyliodd ar draws yr Iwerydd mewn cwch hwylio, o Gibraltar i Antigua, ac yna i'r cyfeiriad arall yn 2000 o Miami i'r Azores.
Fel y dywedodd David: "Roedd e'r ultimate adventurer."
Ddiwedd yr 1960au, roedd Anthony wedi dychmygu ei hun yn y gofod, ond nid oedd yn difaru ei benderfyniad i ffarwelio â'r siawns i hedfan ymhlith y sêr; ar wely'r môr y gwnaeth y gwyddonydd wahaniaeth ac yno y llwyddodd i wireddu ei uchelgais, er gyda geiriad ychydig yn wahanol, o gael:
"plymiad llwyddiannus, i gynnal arbrofion da ac i wneud 'chydig o wyddoniaeth o'r radd flaenaf."
Hefyd o ddiddordeb: