Y Bencampwriaeth: Watford 1-3 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Caerdydd i roi hwb mawr i'w gobeithion o aros yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth oddi cartref yn Watford nos Fercher.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi ychydig dros 10 munud, gydag Ismaila Sarr yn rhwydo wedi i Keinan Davis benio croesiad Imran Louza i'w lwybr
Ond yna llwyddodd Caerdydd i droi y gêm ar ei phen o fewn pum munud gyda goliau gan Kion Etete a Cedric Kipre.
Aeth yr Adar Gleision ymhellach ar y blaen cyn hanner amser, gyda Sory Kaba yn sgorio gydag ergyd wych dros ei ben ei hun.
Mae'r canlyniad yn gweld Caerdydd yn codi o 21ain i 19eg yn y tabl, gyda phedair gêm o'r tymor yn weddill - un yn fwy na'r timau o'u hamgylch yn y tabl.
Fe ddechreuodd Caerdydd y diwrnod yn glir o safleoedd y cwymp ar wahaniaeth goliau yn unig, ond bellach maen nhw ddau bwynt yn glir o Reading yn yr 22ain safle.