Y Bencampwriaeth: Abertawe 4-2 Preston
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Abertawe i drechu Preston North End nos Fercher diolch i berfformiad gwych yn yr hanner cyntaf.
Cafodd yr Elyrch y dechrau delfrydol, gyda phas Joe Allen yn canfod Joël Piroe yn y cwrt cosbi i rwydo o fewn dau funud o'r gic gyntaf.
Wedi 35 munud llwyddodd Piroe i greu gôl i Allen, cyn i Harry Darling ychwanegu trydedd ar drothwy hanner amser.
Fe wnaeth Preston daro 'nôl ar ddechrau'r ail hanner gyda gôl gan Tom Cannon, cyn i Troy Parrott ychwanegu ail i'r ymwelwyr gydag 20 munud yn weddill.
Cafodd Allen gerdyn coch ar drothwy'r 90 munud, a hynny ar ôl iddo gael ei eilyddio, am ddigwyddiad yn ymwneud â thîm hyfforddi Preston, gyda'u rheolwr Ryan Lowe hefyd yn derbyn yr un gosb.
Ond yna llwyddodd Piroe i selio'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf gyda'i 18fed gôl yn y gynghrair y tymor hwn.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn aros yn 13eg yn y Bencampwriaeth, gyda thair gêm o'r tymor yn weddill.
Mae siawns bychan iawn o hyd y gallai tîm Russell Martin gyrraedd safleoedd y gemau ail gyfle, a hwythau bum pwynt tu ôl i Blackburn yn y chweched safle.