Arestio dau wedi i gerddwr gael ei daro gan gar a'i ladd

  • Cyhoeddwyd
car heddlu

Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, wedi i gerddwr gael ei ladd ar ôl cael ei daro gan gar.

Digwyddodd y gwrthdrawiad oddi ar Ffordd Tŷ Du ym mhentref Ffos y Gerddinen, Sir Caerffili am 17:15 ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y cerddwr, oedd yn 66 oed ac yn byw'n lleol, wedi marw yn y fan a'r lle, a bod ei deulu wedi cael gwybod.

Mae dau berson 25 oed, un o Gaerffili a'r llall o ardal Tredelerch, Caerdydd, yn parhau i fod yn y ddalfa.

Roedd car coch Peugeot 207 a Kia Ceed du yn rhan o'r gwrthdrawiad, ond dydy'r heddlu ddim wedi dweud pa gerbyd wnaeth daro'r cerddwr.

Pynciau cysylltiedig