Tân mawr mewn uned ddiwydiannol yn Hwlffordd
- Cyhoeddwyd

Roedd mwy na 30 o ddiffoddwyr yn bresennol a rhybudd i bobl osgoi ardal Dew Street
Roedd mwy na 30 o ddiffoddwyr yn delio â thân mawr mewn uned ddiwydiannol yn Sir Benfro fore Sadwrn.
Fe chafodd chwech o griwiau eu galw i'r digwyddiad yn Hwlffordd tua 07:20.
Roedd sawl injan dân i'w gweld yng nghanol y dref.
Mae'r heddlu'n gofyn i bobl osgoi ardal Dew Street.