Rygbi Dydd y Farn: Dreigiau 31-14 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Y Dreigiau oedd yn fuddugol yn erbyn y Scarlets yng ngêm gyntaf 'Dydd y Farn' yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.
Dyma oedd y gêm gyntaf i'r tîm o Gasnewydd ennill o'u 10 gêm ddiwethaf.
Fe sgoriodd Elliot Dee, Jordan Williams a Sio Tomkinson o fewn y 10 munud cyntaf ar ôl i glo'r Scarlets, Vaea Fifita, gael cerdyn melyn.
Fe wnaeth Kieran Hardy a Carwyn Tupulotu ymateb cyn ac ar ôl hanner amser i'r Scarlets.
Ond fe lwyddodd cais munud olaf Steff Hughes sicrhau pwynt bonws a buddugoliaeth i'r Dreigiau.
Bydd y Gweilch yn wynebu Rygbi Caerdydd yn ail gêm 'Dydd y Farn'.