Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Stoke

  • Cyhoeddwyd
Callum O'Dowda a Ki-Jana HoeverFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd hi'n gêm gyfartal rhwng yr Adar Gleision a Stoke City yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen ers gôl Josh Laurent wedi 16 o funudau.

Roedd cyfleoedd yr hanner cyntaf yn brin, ond fe ddaeth Sory Kaba o Gaerdydd â'r sgôr yn gyfartal.

Fe gafodd Kaba gyfle arall yn ddiweddarach - ond fe aeth honno'n ofer gydag arbediad Jack Bonham.

Mae Caerdydd yn gostwng i'r ugeinfed safle ar y tabl.