Pwllheli: Arestio dyn ar amheuaeth o greulondeb anifeiliaid

  • Cyhoeddwyd
Pawen ciFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

RSPCA Cymru sy'n arwain yr ymchwiliad, medd yr heddlu

Mae dyn 31 oed o Wynedd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o greulondeb tuag at anifeiliaid.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad ar 20 Ebrill yn ardal Pwllheli.

Dywedodd RSPCA Cymru eu bod "mewn cyswllt â Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn y digwyddiad honedig".

"Rydym yn deall cryfder y teimlad gan y gymuned a hoffem ddiolch i'r rheiny sydd wedi cysylltu gyda ni," meddai llefarydd.

Ychwanegodd Heddlu'r Gogledd fod y dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliadau'n parhau.