Y Bencampwriaeth: Rotherham 1-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cédric KipréFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Cédric Kipré a'i gyd-chwaraewyr yn dathlu ei gôl fuddugol yn y munudau olaf

Mae Caerdydd wedi cymryd cam enfawr at ddiogelwch yn y Bencampwriaeth ar ôl trechu Rotherham oddi cartref nos Iau.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 11 munud, gyda Kion Etete yn penio i'r rhwyd o groesiad Perry Ng.

Ond roedd Rotherham yn gyfartal ar ôl 37 munud, gyda Chiedozie Ogbene yn sgorio gôl debyg iawn i un Etete, y tro yma o groesiad Wes Harding.

Yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf cafodd Caerdydd gyfle euraidd i sgorio o'r smotyn yn dilyn trosedd ar Jaden Philogene yn y cwrt cosbi, ond taro'r trawst wnaeth Sory Kaba o 12 llath.

Ond yn y munudau olaf aeth y Cymry yn ôl ar y blaen wrth i Cédric Kipré rwydo er mwyn sicrhau buddugoliaeth allweddol i Gaerdydd.

Mae'r canlyniad yn golygu fod yr Adar Gleision yn ddiogel i bob pwrpas rhag cwympo o'r Bencampwriaeth.

Maen nhw'n codi dau safle i 18fed yn y Bencampwriaeth - uwchben Rotherham - chwe phwynt o safleoedd y cwymp gyda dwy gêm o'r tymor yn weddill.

Cafodd y gêm wreiddiol rhwng y ddau dîm ei gohirio fis diwethaf oherwydd glaw trwm wedi 48 munud o chwarae - gyda Chaerdydd ar y blaen o 1-0 ar y pryd.