Mamau'n gwneud y Tri Chopa i godi arian i Dŷ Hafan

  • Cyhoeddwyd
Bridget ac Elain
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bridget Harpood yn fam i Elain, sy'n 13 oed, a gafodd ei geni gyda chyflwr cymhleth ar ei chalon

Bydd y penwythnos nesaf yn un i'w gofio i grŵp o famau unigryw sydd am gwblhau her Tri Chopa Cymru.

Mae bywyd bob dydd yn gallu bod yn heriol i Lynsey Harris, Kat Brown, Stacey Carr, Martina Harding, Marie Jones, Alex Forbes, Helen Jenkins, Emma Humphrey a Bridget Harpood.

Hynny, am eu bod yn famau i blant sydd â chyflyrau sy'n byrhau eu bywyd.

Mae'r mamau yn codi arian ar gyfer elusen hosbis plant Tŷ Hafan, sydd wedi eu cefnogi trwy gyfnodau heriol iawn yn eu bywydau.

Her wahanol fydd yn wynebu'r mamau dros y penwythnos, ond maen nhw wedi arfer dringo mynyddoedd emosiynol a chorfforol tra'n gofalu am iechyd eu plant.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae cael mamau eraill sy'n gwybod sut ti'n teimlo, fel cefnogaeth ac fel ffrindiau, mor bwysig," meddai Bridget

Un o'r rheiny fydd yn ymgymryd â'r her yw Bridget Harpood o Lanilar ger Aberystwyth - mam Elain sy'n 13 oed, a gafodd ei geni gyda chyflwr cymhleth ar ei chalon.

"Ti'n cael dy roi mewn yn y sefyllfa yma lle mae rhywun yn dweud wrtho ti bod dy blentyn di ddim yn mynd i fyw bywyd hir, felly ti'n byw efo'r pwysau yna bob dydd," meddai Bridget.

"Ond eto, yn mynd i'r gwaith a gweld ffrindie, tra'n cario hynna rownd gyda ti trwy'r amser.

"Dydy marw, a colli plentyn ddim yn rhywbeth mae pobl eisiau siarad amdano fe, felly mae lot ohonom ni yn cau y teimladau yna i ffwrdd.

"Mae byw gyda'r pwysau yna, dros gyfnod o 10 mlynedd a mwy yn anodd.

"Ti'n dod i arfer gyda fe ond eto, mae'n 'neud i ti deimlo fel bo ti ddim yn ffitio mewn i'r byd normal."

Ffynhonnell y llun, Mums v Mountains
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r criw wedi bod yn paratoi ar gyfer yr her ers rhai misoedd

Yn ôl Bridget, mae'r tadau wedi bod yn gwneud y gwaith elusennol yn y gorffennol, ond mae'n hen bryd i'r mamau gael cyfle i gwblhau her eu hunain, meddai.

"Mae cael mamau eraill sy'n gwybod sut ti'n teimlo, fel cefnogaeth ac fel ffrindiau, mor bwysig," meddai.

"Dwi wedi mynd trwy gyfnodau mewn bywyd lle dwi ddim yn teimlo fel bod lot o ffrindiau gyda fi sy'n deall sut dwi'n teimlo.

"Mae lot o'r mamau yma yn byw yn ne Cymru a bydde ni byth wedi creu y ffrindiau yma heb Tŷ Hafan.

"Mae wedi bod yn brofiad rili neis i allu rhannu hyn gyda mamau sydd yr un peth â fi - am ein plant ni a sut ni'n teimlo ond hefyd bywyd pob dydd a phopeth sydd o'n cwmpas ni."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Felix yn byw gyda'i deulu yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg

Pan oedd plentyn hynaf Alex Forbes, Felix, yn 13 wythnos oed, dywedodd arbenigwyr wrthi fod cyflwr niwrolegol prin arno o'r enw lissencephaly miller-dieker, ac na fyddai'n byw tu hwnt i'w flwydd.

Mae Felix yn dibynnu ar gael gofal 24 awr y dydd.

"Mae cael y bond yna gyda'r mamau eraill - mae'n rhywbeth na allwch chi ei gael gan unrhyw un arall felly rydw i'n teimlo'n anrhydedd fy mod i'n rhan o'r grŵp hwn," meddai Alex.

Ychwanegodd Marie Jones, 47 o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n fam i bump o blant: "Does 'na neb sy'n eich deall fel mam arall Tŷ Hafan.

"Er bod ein straeon ni'n wahanol mae ein profiadau ni mor debyg, mae ein meddyliau a'n teimladau yn debyg iawn, iawn ac mae'r gefnogaeth yna heb ei hail a dweud y gwir."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tŷ Hafan agor yn Sili, Bro Morgannwg yn 1999

Daw tua 80% o'r £5m sydd ei angen ar Dŷ Hafan bob blwyddyn gan roddion pobl sy'n codi arian - o ddringo mynyddoedd i redeg boreau coffi.

"Mae'n wych i ni allu cefnogi grŵp o famau i ddod at ei gilydd, a hynny yn caniatáu iddynt gefnogi ei gilydd trwy gyfnodau anodd," meddai Jenna Lewis o Dŷ Hafan.

"Mae'r teuluoedd hyn yn gorfod delio â heriau bob dydd na allai'r rhan fwyaf ohonom eu dychmygu.

"Mae'r rhieni rydyn ni'n eu cefnogi yn aml yn dweud wrthym mai'r rhwydwaith hwnnw o bobl sy'n mynd trwy'r un peth â nhw ac yn deall yr heriau maen nhw'n eu hwynebu o ddydd i ddydd, yn dweud bod hynny yn eu helpu nhw'n fawr.

"Mae'n wych i ni allu cefnogi y mamau i wneud rhywbeth fel hyn tra hefyd yn codi arian sy'n hanfodol i ni."

Bydd y criw o famau yn ceisio cwblhau'r her o ddringo'r Wyddfa, Cader Idris a Phen-y-Fan mewn un diwrnod ar ddydd Sul, 7 Mai.

Pynciau cysylltiedig