Y Bencampwriaeth: Hull 1-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Luke Cundle yn sgorio yn erbyn Hull CityFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Luke Cundle yn sgorio ei ail gôl o'r tymor - y ddau yn erbyn Hull City

Fydd Abertawe ddim yn cystadlu am ddyrchafiad posib i'r Uwchgynghrair yn y gemau ail gyfle eleni wedi iddyn nhw ond sicrhau pwynt oddi cartref yn erbyn Hull.

Yn dilyn rhediad gwych yn ddiweddar roedd hi'n ddal yn fathemategol bosib ddechrau'r prynhawn - er yn her - iddyn nhw gyrraedd safleoedd y gemau ail gyfle.

Er iddyn nhw ymestyn eu record ddiguro i wyth gêm, mae'n amhosib bellach i dîm Russell Martin orffen yn chwe safle uchaf y tabl.

Fe gafodd amddiffynnwr Cymru, Ben Cabango ddechrau hunllefus i'r gêm drwy roi'r bêl yn ei rwyd ei hun wedi lai na thri munud o chwarae.

Abertawe gafodd y rhan helaeth o'r meddiant a'r chwarae wedi hynny ac fe ddaeth Luke Cundle (39) â nhw'n gyfartal gydag ergyd droed dde isel o'r ochr chwith i gornel dde'r rhwyd.

Ond ni wnaeth yr Elyrch ddigon yn yr ail hanner i newid y sefyllfa, ac roedd canlyniad cyfartal yn un teg.