Adran Dau: Gillingham 1-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Cameron Norman yn dathlu sgorio gôl gyntaf CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cameron Norman yn dathlu sgorio gôl gyntaf Casnewydd

Mae Casnewydd yn gadael Gillingham gyda thriphwynt ar ôl trechu'r tîm oedd un safle oddi tanyn nhw yn Adran Dau.

Fe rwydodd Cameron Norman gyda pheniad o groesiad James Waite, lai na 10 munud wedi'r gic gyntaf, i roi'r Alltudion ar y blaen.

Ond wedi trosedd gan Charlie McNeill yn erbyn Tom Nichols y cwrt cosbi fe gododd Nichols o'r llawr i sgorio o'r smotyn i ddod â'r tîm cartref yn gyfartal wedi 17 o funudau.

Bu'n rhaid aros tan y 78fed munud am y gôl nesaf - ergyd gan Omar Bogle o bas Cameron Norman i roi'r fantais i'r ymwelwyr unwaith yn rhagor.

Mae Casnewydd bellach yn 14eg - dair safle uwchben Gillingham - yn y tabl, gyda 56 o bwyntiau.