Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-2 Huddersfield

  • Cyhoeddwyd
Dathlu gôl Isaak DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Isaak Davies yn hwyr i gau'r bwlch

Colli oedd hanes Caerdydd yn eu gêm gartref olaf o'r tymor yn erbyn Huddersfield sy'n brwydro i osgoi syrthio o'r Bencampwriaeth.

Daeth y goliau i gyd yn yr ail hanner, ond gôl gysur yn unig oedd un Isaak Davies wedi i Gaerdydd ildio dwy gôl flêr.

Yn ystod hanner cyntaf digon diflas bu'n rhaid i'r ymosodwr Kion Etete adael y maes gydag anaf o fewn chwarter awr. Daeth eu cyfle gorau i sgorio wrth i Jaden Philogene daro'r bêl i ochr y rhwyd.

Roedd yr Adar Gleision i weld wedi codi gêr ar ddechrau'r ail hanner cyn i basio gwael arwain at gôl gyntaf Huddersfield wedi 62 o funudau.

Fe wnaeth Joseph Hungbo y gorau o'r camgymeriad, rhedeg am y gôl ac ergydio'n gampus i dop y rhwyd.

Fe roddodd hynny'r momentwm i'r ymwelwyr. O ganlyniad i fethiant Caerdydd i ddelio'n effeithiol â chic rydd fe wyrodd y bêl oddi ar yr amddiffynnwr Jack Simpson heibio'r golwr Jak Alnwick i wneud hi'n 0-2 gyda 10 munud ar y cloc.

Daeth yna lygedyn o obaith pan sgoriodd yr eilydd Isaak Davies (83). O gic gornel, fe groesodd Philogene, y bêl yn isel i Davies e hôl-sodli i'r rhwyd.

Roedd yna fwy o hyder yn eu chwarae wedi hynny, ond er pum munud ychwanegol doedd dim diweddglo delfrydol, ac roedd Huddersfield - dan reolaeth cyn-reolwr Caerdydd, Neil Warnock - yn benderfynol o beidio ag ildio pwyntiau holl bwysig i'w hymgyrch.

Mae'r golled o ddwy gôl i ddim yn golygu bod Caerdydd yn aros yn y 19eg safle gyda 49 - bwyntiau - un safle uwchben Huddersfield sydd ond angen pwynt yn eu gêm olaf i osgoi'r safleoedd cwymp.

Yn sicr nid dyma roedd Caerdydd yn ei ddymuno yn eu gêm gartref olaf o'r tymor, ac mae'n nhw'n ffodus eu bod eisoes yn sicr o'u lle yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf cyn wynebu'r pencampwyr, Burnley ar eu tomen eu hunain.