Babi wedi marw yn dilyn achosion o heintiadau enterofeirws

  • Cyhoeddwyd
traed babiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n ymchwilio wedi clwstwr o achosion myocarditis sydd wedi arwain at farwolaeth un babi.

Dywedodd ICC fod achosion o heintiadau enterofeirws difrifol wedi datblygu llynedd ymhlith babanod ifanc yn y de.

Bellach mae un babi wedi marw, gydag un arall yn yr ysbyty o hyd, ac wyth arall yn parhau i dderbyn triniaeth.

Ond ychwanegodd y corff iechyd eu bod am roi "sicrwydd" i rieni mai "nifer fach iawn o achosion" oedd wedi codi.

'Dysgu gwersi'

Fe wnaeth yr achosion o heintiadau enterofeirws difrifol gyda myocarditis (llid ar gyhyr y galon) ddatblygu rhwng Mehefin a Thachwedd 2022, mewn babanod oedd lai na 28 diwrnod oed.

Yn ôl ICC mae enterofeirws yn haint cyffredin yn ystod plentyndod, ond yn un sy'n anaml iawn yn effeithio ar y galon, a bod y rhan fwyaf o fabanod a phlant "yn gwella'n llwyr".

Ond yn achos y clwstwr hwn fe wnaeth 10 o fabanod ddatblygu salwch difrifol, ac mae un bellach wedi marw o ganlyniad.

"Mae'r clwstwr yn anarferol oherwydd nifer yr achosion a nodwyd o fewn amser byr," meddai Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n gweithio'n agos gyda'r tîm pediatrig yn Ysbyty Plant Cymru

"Felly mae ymchwiliadau'n mynd rhagddynt bellach ar y cyd â'r tîm pediatrig yn Ysbyty Plant Cymru, er mwyn deall y rhesymau pam ac i ymchwilio i unrhyw achosion pellach y gellir eu nodi yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

"Dylid rhoi sicrwydd i rieni, er y bu cynnydd mewn achosion, bod hwn yn dal i fod yn ddigwyddiad prin iawn."

Ychwanegodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan ei bod hi'n "cydymdeimlo â phob un" o deuluoedd y plant hynny, ond bod achosion "yn brin iawn o hyd".

"Mae gan Gymru system wyliadwriaeth dda ar waith ar gyfer enterofeirws," meddai.

"Rydym yn cymryd rhan mewn astudiaeth glinigol i ddeall yr achosion hyn ymhellach a dysgu gwersi, gan gynnwys newidiadau yn y modd y mae heintiau'n cylchredeg ac imiwnedd y boblogaeth yn dilyn y pandemig."

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd fod ICC bellach wedi rhoi gwybod i Sefydliad Iechyd y Byd am y sefyllfa, "o ganlyniad i natur anghyffredin a difrifol yr achosion".