Cerdd: Y Coroni gan Elen Ifan

  • Cyhoeddwyd
Elen IfanFfynhonnell y llun, Elen Ifan
Disgrifiad o’r llun,

Elen Ifan

Gyda Brenin Charles III yn cael ei goroni yn Abaty Westminster, Llundain ar ddydd Sadwrn 6 Mai, rydym ar drothwy penwythnos sy'n hollti barn.

Yn ôl arolwg gan YouGov ar gyfer rhaglen Panorama'r BBC ym mis Ebrill, dywedodd 58% o bobl ledled y DU eu bod o blaid cadw'r frenhiniaeth, tra bod 26% eisiau gweriniaeth. O'r 220 o bobl a gafodd eu holi yng Nghymru, roedd y canlyniadau'n eithaf tebyg - 58% o blaid a 29% yn erbyn. Ymhlith pobl ifanc 18 i 24 oed, mae'r ganran o blaid cael gwared ar y teulu brenhinol yn uwch na'r rhai sydd eisiau iddo barhau.

Cyhoeddodd yr AS Elin Jones na fydd hi'n mynychu'r coroni a phan wnaeth Cymru Fyw holi barn unigolion ar draws Cymru am y frenhiniaeth, cymysg oedd yr ymateb. 

Un fydd yn osogi'r digwyddiad y penwythnos yma yw Elen Ifan, Bardd y Mis Radio Cymru ar gyfer mis Mai.

Gofynnodd Cymru Fyw iddi ysgrifennu cerdd yn crynhoi ei theimladau hithau.

Disgrifiad o’r llun,

Y Coroni gan Elen Ifan

Hefyd o ddiddordeb: