Llywydd y Senedd ddim yn mynychu coroni'r Brenin Charles
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi dweud na fydd hi'n mynychu digwyddiad coroni Brenin Charles III ddydd Sadwrn.
Dywedodd AS Plaid Cymru "fel gweriniaethwraig, teimlaf mai rhywbeth i eraill yw dathlu'r coroni".
Bydd y Dirprwy Lywydd a'r Aelod o'r Senedd Llafur David Rees yn cynrychioli'r Senedd yn y seremoni yn Abaty San Steffan.
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford, sydd hefyd yn weriniaethwr, yno ar ran Llywodraeth Cymru. Ni fydd arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn bresennol.
'Dymuno'n dda i'r pâr brenhinol'
Mewn datganiad, dywedodd y Llywydd: "Rwyf wedi penderfynu na fyddaf yn mynychu'r coroni.
"Bydd y Senedd yn cael ei chynrychioli gan y Dirprwy Lywydd.
"Fel Llywydd, rwyf wedi ymgymryd yn llawn â phob dyletswydd cyfansoddiadol gyda phennaeth y wladwriaeth a byddaf yn parhau i wneud hynny.
"Serch hyn, fel gweriniaethwraig, teimlaf mai rhywbeth i eraill yw dathlu'r coroni.
"Rwy'n dymuno'n dda i'r pâr brenhinol yn eu blynyddoedd o wasanaeth."
Dywedodd AS Llafur a'r cyn-weinidog Alun Davies ei fod yn "siomedig iawn" gyda phenderfyniad Ms Jones, gan ddweud nad oedd "yno i arfer ei rhagfarnau ei hun ond i gynrychioli ein senedd gyfan a'n cenedl".
Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig ei phenderfyniad yn "siomedig iawn" hefyd, ac fe gadarnhaodd eu harweinydd yn y Senedd Andrew RT Davies y byddai yno ddydd Sadwrn.
"Allan o ganolfan alwadau yn Nantgarw, fe sefydlodd y Brenin Charles III, fel Tywysog Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog - elusen sy'n darparu cefnogaeth a chyfleoedd, gan helpu dros filiwn o bobl ifanc," meddai.
"Rwy'n gwybod ei fod yn dal Cymru yn agos at ei galon ac y bydd yn parhau i wneud hynny yn ystod ei deyrnasiad fel brenin."
Dywedodd Mark Drakeford ddydd Iau nad oedd wedi ystyried peidio mynychu'r coroni, er ei fod yntau yn weriniaethwr.
"Dydw i ddim yno ar fy rhan fy hun. Rydw i yno fel Prif Weinidog Cymru," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd pobl yn gweld seremoni goroni sy'n "adlewyrchu amrywiaeth y Deyrnas Unedig yn llawn".
"Am y tro cyntaf bydd yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed fel rhan o'r seremoni, bydd cerddoriaeth newydd wedi'i gyfansoddi yng Nghymru, a bydd perfformwyr o Gymru yno.
"O'i gymharu â digwyddiadau'r gorffennol, rwy'n gobeithio y bydd pobl yng Nghymru sy'n cymryd diddordeb yn gweld Cymru gyfoes yn cael ei hadlewyrchu yn y ffordd y bydd y seremoni'n cael ei chyflwyno.
Cymru 'yn flaenllaw'
Ddydd Mawrth, dywedodd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, ei phrif gynghorydd cyfreithiol, Mick Antoniw, y byddai Cymru "yn flaenllaw" yn y coroni, gyda Chroes Cymru newydd yn arwain yr orymdaith.
Yn anrheg gan y Brenin i'r Eglwys yng Nghymru, mae'r groes wedi'i gwneud o ddeunyddiau Cymreig fel llechi, pren wedi'i adennill ac arian o'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.
Mae'n cynnwys crair o'r Gwir Groes - y dywedir ei bod o'r groes y croeshoeliwyd Iesu arni - a roddwyd i'r Brenin Charles gan y Pab Ffransis.
Dywedodd Mr Antoniw wrth y Senedd y bydd y digwyddiad yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig a cherddorion Cymreig.
Bydd y bariton-bas byd enwog Syr Bryn Terfel yn canu darn newydd gan y cyfansoddwr Paul Mealor, a hynny yn Gymraeg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2023