Pandemig Covid 'ar ben' medd Sefydliad Iechyd y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi datgan fod pandemig byd-eang Covid-19 bellach yn swyddogol wedi "dod i ben".
Daeth y pandemig i amlygrwydd byd-eang ar ddechrau 2020, ac yn y tair blynedd ers hynny mae miliynau wedi marw o'r haint wrth i wledydd ar draws y byd hefyd wynebu trafferthion economaidd.
Ond mewn datganiad ddydd Gwener fe wnaeth pennaeth y WHO, Tedros Adhanom Ghebreyesus ddatgan "fod Covid-19 wedi dod i ben fel argyfwng iechyd byd-eang".
Yn ôl ffigyrau swyddogol mae cyfradd marwolaeth y feirws bellach wedi disgyn o'i lefel uchaf o dros 100,000 o bobl yr wythnos ym mis Ionawr 2021, i ychydig dros 3,500 erbyn mis Ebrill eleni.
Y brechlyn yn allweddol
Dywedodd Dr Ghebreyesus fod o leiaf saith miliwn o bobl wedi marw yn ystod y pandemig.
Ond ychwanegodd ei fod yn credu y gallai'r gwir ffigwr fod "dros 20 miliwn", gan rybuddio bod y feirws yn parhau i fod yn fygythiad.
"Y peth gwaethaf all unrhyw wlad wneud nawr yw defnyddio'r newyddion yma fel rheswm i orffwys ar ei rhwyfau, cael gwared ar y systemau maen nhw wedi eu hadeiladu, neu roi'r neges i'w phobl nad oes angen poeni am Covid-19," meddai.
Cafodd y feirws ei ddatgan fel argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol ym mis Ionawr 2020, yn dilyn yr achosion cyntaf gafodd eu canfod yn China.
Fe wnaeth yr haint wedyn ymledu ar draws y byd, gyda'r Deyrnas Unedig yn cyflwyno ei chyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 fel y gwnaeth llawer o wledydd eraill ar y pryd.
Roedd datblygu brechlyn ar gyfer Covid yn drobwynt enfawr yn y frwydr yn erbyn yr haint, ac yn ôl yr WHO mae 13 biliwn dos wedi eu rhoi bellach.
Nawr mae gwledydd unigol yn dewis sut maen nhw'n delio gyda Covid, gyda'r DU ymhlith y rheiny sydd bellach wedi troi at "fyw gyda'r feirws" oherwydd yr imiwnedd sydd bellach yn y boblogaeth.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae 11,765 o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru ers Ionawr 2020, gyda'r rhan fwyaf o'r rheiny yn dod yn ystod ton gyntaf gwanwyn 2020, ac yna ton y gaeaf rhwng Tachwedd 2020 a Chwefror 2021.
Dechreuodd y rhaglen frechu yng Nghymru yn ei hanterth ym mis Ionawr 2021, ac o fewn deufis roedd dros filiwn o bobl yng Nghymru wedi cael eu brechlyn cyntaf.
Bellach mae dros 2.5 miliwn o bobl yng Nghymru wedi derbyn o leiaf dau ddos, gyda miliwn yn rhagor wedi cael brechlyn atgyfnerthu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023