Covid-19: Miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael eu brechlyn cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros filiwn o bobl yng Nghymru wedi cael o leiaf un dos o frechlyn coronafeirws.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae bron i 40% o'r boblogaeth wedi derbyn eu dos cyntaf bellach.

Mae'r data diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod cyfanswm o 1,007,391 o bobl wedi cael dos cyntaf, gyda 192,030 bellach wedi cael dau ddos.

Yn dilyn gostyngiad disgwyliedig mewn cyflenwadau dros yr wythnosau diwethaf, dywed y llywodraeth y bydd Cymru "cyn bo hir yn gweld cynnydd sylweddol eto".

Dylai tua 200,000 o frechiadau fod ar gael yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf - gyda thua 30,000 y dydd yn cael eu rhoi, meddai Llywodraeth Cymru.

Yn gynharach ddydd Mawrth, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod bron i 7,600 o farwolaethau'n gysylltiedig â Covid-19 wedi'u cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Dadansoddiad ein gohebydd iechyd, Owain Clarke:

Mae'r ffaith fod dros filiwn o bobl - mwy na phedwar o bob deg oedolyn - bellach wedi cael dos cyntaf o frechlyn Covid yn garreg filltir symbolaidd.

Mae pob brechlyn sy'n cael ei roi ym mraich rhywun yn cael ei ddisgrifio fel buddugoliaeth fach yn erbyn y feirws - ac o ganlyniad y mwyaf sydd wedi cael brechiad, y mwyaf yr effaith.

Ond mae'n werth cofio nad oes unrhyw frechlyn yn 100% effeithiol - er fod mwy a mwy o ymchwil yn awgrymu fod hyd yn oed un dos o'r ddau frechlyn sy'n cael ei dosbarthu yng Nghymru yn cynnig lefel uchel o ddiogelwch yn erbyn salwch difrifol ac yn enwedig ymhlith pobl hŷn a grwpiau bregus.

Ar ôl cyfnod lle wnaeth y rhaglen frechu arafu rhywfaint ddiwedd Chwefror, mae'r arbenigwyr yn ffyddiog fod y cyflenwadau bellach wedi gwella, ac yn ddigon posib y bydd mwy o frechiadau dyddiol yn cael eu cynnig erbyn diwedd yr wythnos hon nag ar unrhyw adeg ers i'r rhaglen frechu ddechrau.

Bydd hynny, yn ogystal â'r data sy'n dangos fod cydraddau Covid yn dal i ddisgyn mewn sawl man, yn cynnig rhywfaint o obaith y gall rhai cyfyngiadau gael eu llacio cyn bo hir.

Er mae'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn mynnu, am y tro, mai pwyll pia hi.

Dywed Dr Richard Stanton, darlithydd firoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, bod hon yn garreg filltir "ryfeddol".

"Rydyn ni wedi mynd o gael feirws nad oedd unrhyw un wedi clywed amdano i frechu traean y boblogaeth o fewn blwyddyn. Mae'n gyflawniad trawiadol iawn."

Daeth Gwenfair Jones allan o'i hymddeoliad fel nyrs i helpu gyda'r ymdrech frechu.

Mae'n amcangyfrif ei bod wedi rhoi 1,200 o bigiadau yng nghanolfan brechu torfol Glannau Dyfrdwy.

Ffynhonnell y llun, Gwenfair Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gwenfair Jones ei bod yn falch o ddod allan o ymddeoliad i helpu gyda'r rhaglen frechu

"Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r tîm," meddai wrth BBC Radio Wales.

"Mae pawb sy'n gweithio yn y canolfannau yma'n bobl anhygoel - o'r nyrsys, i'r staff gweinyddol, i'r gwirfoddolwyr sy'n rhoi eu horiau i fod yno yn ein helpu. Mae'n waith tîm gwych."

Dywedodd Ms Jones ei bod wedi cadw holl gapiau nodwydd plastig pawb yr oedd wedi'u brechu, sydd fel arfer rhwng 60 a 72 o bobl bob dydd.

Y broses i gyflymu eto?

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, eisoes wedi cyhoeddi y bydd y naw grŵp blaenoriaeth yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn erbyn diwedd Ebrill.

Mae'r pedwar grŵp blaenoriaeth - y rhai dros 70, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a chymdeithasol rheng flaen a phobl bregus - wedi cael cynnig y brechlyn.

Ar 27 Chwefror, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod miliwn dos o'r brechlyn rhag Covid-19 wedi eu rhoi yma.

Disgrifiad,

'Mae pob jab 'dan ni'n rhoi yn teimlo step yn agosach'

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnig brechlyn Covid i'r pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf, yn ôl Llywodraeth Cymru, a hynny erbyn 12 Chwefror.

Yn ôl prif fferyllydd Llywodraeth Cymru, Andrew Evans, fe allai mwy na 30,000 dos y dydd gael eu darparu yma o fewn y dyddiau nesaf, yn debyg i'r lefelau brig welwyd yng nghanol mis Chwefror.

Mae'n dilyn cyfnod o arafu yn ystod yr wythnosau diwethaf - hynny yn bennaf oherwydd gostyngiad yng nghyflenwad y brechlyn AstraZeneca.

Pynciau cysylltiedig