Plentyn dwy oed wedi'i anafu mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn dwy oed wedi cael anafiadau a allai newid ei fywyd wedi gwrthdrawiad ym Mhontllan-fraith, Sir Caerffili.
Dywed Heddlu Gwent fod swyddogion yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad rhwng cerbyd a dau berson fore Mawrth.
Yn ôl llefarydd mae'r plentyn wedi cael anafiadau a allai newid ei fywyd.
Cafodd dyn 29 oed fân anafiadau.
Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans ac Ambiwlans Awyr Cymru eu galw tua 10:10.